Mae hon yn drafodaeth ddiddorol iawn, ac yn godi llawer o bwyntiau am
safon, cysondeb (nid yr un peth), awdurdod, a'r ffaith fod y cwsmer
wastad yn iawn!
Efallai mai'r hyn nad ydyn ni'n ddigon ymwybodol ohono yw'r angen i
ddefnyddio cyweiriau iaith gwahanol (ac felly weithiau eirfa wahanol)
mewn gwahanol gyd-destunau.
Mae gwyddor *safoni* termau yn cael ei neilltuo i barthau technegol
cyfyng ('iaith at ddibenion arbennig' neu LSP yn ôl y jargon
rhyngwladol). Felly mae'n iawn fod cyfreithwyr y Cynulliad yn edrych yn
fanwl ar y termau technegol sy'n perthyn i'r ddeddfwriaeth, ac yn mynnu
fod cyfieithwyr y Cynulliad yn dilyn y rheiny hefyd mewn cyd-destunau
cyfreithiol. Mae'n gwneud synnwyr i bawb arall ddilyn yr arweiniad hwn
yn yr un meysydd pwnc ac yn un cywair iaith, ond beth am daflenni hawdd
eu deall i'r cyhoedd? neu arwyddion cyhoeddus? a beth am feysydd eraill
lle mae cyrff arbenigol e.e. yn y byd amgylchedd yn deall eu meysydd yn
well ac wedi argymell i'w cyfieithwyr ddefynddio termau a bennwyd
ganddynt hwy.
Mae'n haws dweud wrth bawb 'rhaid i chi ddefnyddio'r term hwn' - mae'n
gofyn llawer mwy i ddweud hefyd 'ond defnyddiwch eich crebwyll a'ch
synnwyr cyffredin, ystyriwch hefyd y cywair iaith a gofynion y
cwsmer...Ond dyna pam mae cyfieithu yn wyddor mor ddiddorol wrth gwrs....
Delyth
Ysgrifennodd Gwenllian Mair Williams:
>Doeddwn i ddim yn trio dweud bod 'rhybudd' yn anghywir, dim ond yn pwyntio
>allan bod na anghysondebau mawr o ran y termau sy'n cael eu defnyddio, er
>gwaetha ein holl ymdrechion ni fel cyfieithwyr i gael cysondeb.
>'Hysbysiad' wnes i ei ddefnyddio am mai dyna oedd y term gefais i gan y
>cleient, ac mai dyna oedden nhw wedi'i ddefnyddio o'r blaen.
>Dydw i ddim yn ddigon o awdurdod i geisio dweud beth sy'n gywir ac anghywir!
>
>Rydw i'n trio dilyn, cyn belled ag y galla i, be sy'n cael ei ddefnyddio gan
>y Cynulliad, ond mae hynny'n gallu bod yn annodd os yw'r cleient yn mynnu
>defnyddio term gwahanol.
>
>Dwi'n meddwl mai dyna ydi'r benbleth a'r rhwystredigaeth fwyaf - be ydi'r
>flaenoriaeth?
>Ceisio cael cysondeb a bod yn gywir fel cyfieithydd, neu bodloni gofynion y
>cleient?
>Faint o awdurdod sydd gen i i ddweud wrthyn nhw eu bod nhw'n anghywir?!!
>
>Gwenllian
>
>
>
>----- Original Message -----
>From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Thursday, February 15, 2007 2:22 PM
>Subject: Re: Penalty Charge Notice
>
>
>Ydi neges Gwenllian yn golygu, felly, nad "Rhybudd Talu Cosb" yw'r
>term Cymraeg swyddogol am "Penalty Charge Notice" - O diar - a
>minnau'n meddwl bod y mater wedi'i setlo!
>
>Rhyfedd na fyddai rhyw adran gyfreithiol neu rywbeth yn rhoi sêl
>bendith ar bethau fel hyn cyn iddyn nhw fynd i'r cyhoedd.
>
>Geraint - o'n i'n meddwl mai Ann Rhinweddol oedd honno. Ond efallai
>mai ar ôl iddi gael ei dadgriminaleiddio oedd hynny!
>
>Siân
>On 15 Chwef 2007, at 12:05, Gwenllian Mair Williams wrote:
>
>
>
>>Rhyfedd iawn - mae hyn yn dangos nad ydi'r Cynghorau yn gallu
>>penderfynu pa
>>dermau i'w defnyddio.
>>Wedi cyfieithu adroddiad ar yr un testun wythnos diwetha i un o
>>adranau'r
>>Cyngor, ac wedi dilyn y cyfarwyddiadau gefais i ganddyn nhw.
>>
>>'dadgriminaleiddio' am decriminalisation
>>hysbysiad yn hytrach na rhybudd.. a..
>>doeddwn i ddim yn deall pam defnyddio cosb yn hytrach na dirwy chwaith
>>... ond dyna ni, doedd gen i ddim awdurdod i newid nac amau, a
>>gorfod glynu
>>at eu rhestr nhw wnes i.
>>
>>Pa obaith sydd gan gyfieithydd bach i drio cysoni os nad ydy nhw'n
>>gallu
>>penderfynu be mae nhw'n ei ddefnyddio eu hunain?!
>>
>>Gwenllian
>>
>>----- Original Message -----
>>From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
>>To: <[log in to unmask]>
>>Sent: Thursday, February 15, 2007 11:27 AM
>>Subject: Re: Penalty Charge Notice
>>
>>
>>Naci - "Annrhoseddol"
>>On 15 Chwef 2007, at 10:54, Geraint Løvgreen wrote:
>>
>>
>>
>>>"anhroseddol" gobeithio...
>>>
>>>----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
>>><[log in to unmask]>
>>>To: <[log in to unmask]>
>>>Sent: Thursday, February 15, 2007 10:05 AM
>>>Subject: Re: Penalty Charge Notice
>>>
>>>
>>>Cefais daflen trwy'r post ddoe, wedi'i pharatoi gan Gyngor Gwynedd
>>>a Chyngor Ynys Môn.
>>>"Rhybudd Talu Cosb" a ddefnyddir ynddi am "Penalty Charge Notice".
>>>
>>>Ond mae'n dweud "Beth yw'r ddirwy?" am "What's the penalty?" a "...
>>>mae'n bosib y byddwch yn
>>>canfod Rhybudd Talu Cosb - sef Dirwy Parcio - ar ffenest eich
>>>cerbyd ..." am "... you may find a
>>>Penalty Charge Notice - a Parking Ticket - on your windscreen ..."
>>>
>>>Gweinyddwyr Parcio'r Cyngor yw'r enw ar y Council Parking Attendants.
>>>
>>>(Mae ganddyn nhw swydd ddifyr ar Ynys Môn, gyda llaw:
>>>"Decriminalised Parking Manager" / "Rheolwr Parcio Annrhoseddol" -
>>>sgwn i beth oedd y cradur yn
>>>neud cyn iddo droi dalen newydd)
>>>
>>>
>
>
>
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the University of Wales,
Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
|