Neges gan Berwyn:
Fe gymerais sesiwn ar gyfieithu gyda'r ail flwyddyn ym Mhrifysgol
Caerdydd beth amser yn ôl dwetha a gofyn am gyfieithiad o 'to take
umbrage'. Cynigiodd un o'r merched yr ymadrodd "llyncu pry'". Er i mi
fynegi peth amheuaeth, fe ddywedodd hi'n eitha pendant 'Dyna fyddwn ni'n
ei ddweud'.
Dyw'r ymadrodd ddim yn rhan o'm hiaith i, a'r unig droeon rwy' wedi
clywed yr ymadrodd fe olygai - yn eitha gwamal - fod merch yn disgwyl/yn
feichiog. Ydy aelodau'r cylch yn gyfarwydd â'r ymadrodd pan fo'n golygu
'llyncu mul/polyn'? Ydy e'n ymadrodd sy'n perthyn i ardal benodol?
Rwy' wedi bod yn pori mewn casgliadau o idiomau heb ddod o hyd iddo yno
- ond mae i'w gael o dan 'llyncu' yng Ngeiriadur y Brifysgol ... 'llyncu
pryf = llyncu mul'
Diolch ymlaen llaw am bob doethineb!
Berwyn
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the University of Wales,
Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
|