Ysgrifennodd Ann Corkett:
> Mae Annes wedi cysylltu i awgrymu "Mae'r drws 'ma'n cau cau".
A chofio pennill Dic Jones ar y Talwrn 's lawer dydd:
Yn y de mae drysau sobor
Naill ai'n cau neu ynteu'n agor.
Yn y gog mae drysau rhyfedd
Yn cau agor yn ddiddiwedd.
>
> Y rheswm nad yw hi wedi anfon yr awgrym ei hun yw ei bod hi'n dal yn
> esgymun o'r grwp oherwydd rhyw anhawster cyfrifiadurol. 'Roeddwn i'n
> meddwl bod rhywun wedi gofyn am gymorth ynghylch hyn ers talwm - a oes
> 'na fodd ei ddatrys?
Ddim o'r pen yma - rhaid i Annes ofyn i'w darparwr gwasanaeth pam fod ei
negeseuon yn cael eu blocio. Mae'n bosib ei bod hi ar ryw restr esgymun
ar amheuaeeth o yrru negeseuon sbam (nid mod i'n awgrymu ei bod hi'n
gwneud, ond dyw'r rhestri yma ddim yn gywir bob tro).
Delyth
>
> Ann
>
> ----- Original Message ----- From: "Puw, John"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, February 01, 2007 2:55 PM
> Subject: ATB: Geiriau sy'n swnio'n debyg ond ag ystyr cwbl wahanol
>
>
> Roedd rhywun yr ydw i'n ei 'nabod gyda pheth nam ar ei leferydd yn
> cael cryn drafferth efo mellten a brechdan am rhyw reswm hollol
> annelwig!!
>
> (A 'dan ni'n dal i chwerthin am ddyn glo Bruce!!)
>
>
> John Puw
>
> Uned Gyfieithu/Translation Unit
> Ffôn/Tel: 01492 510935
> Mewnol/Internal: 6135
> E-bost/E-mail: [log in to unmask]
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Watt
> Elen Mererid ADN/GGYC
> Anfonwyd/Sent: 01 Chwefror 2007 09:45
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: FW: Geiriau sy'n swnio'n debyg ond ag ystyr cwbl wahanol
>
> Sôn am samwn - eog ac euog, igian ac ugain, be am cwmwl a cwlwm, bwyd a
> bywyd, canol a chalon.
> Mererid
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
> Sent: 01 February 2007 09:42
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Geiriau sy'n swnio'n debyg ond ag ystyr cwbl wahanol
>
>
> Lliw a llyw
> (Un o'n hoff jocs i - Be ydy 'lliw' samwn? - Ei gynffon)(llyw!)
>
> Catrin
> ----- Original Message ----- From: "H.K.Smith" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, February 01, 2007 9:36 AM
> Subject: Re: Geiriau sy'n swnio'n debyg ond ag ystyr cwbl wahanol
>
>
> Ysgrifennodd Cathrin Alwen:
>
>> Oes unrhyw un yn gwybod am eiriau Cymraeg sy'n swnio'n debyg i'w
>> gilydd
>> ond ag ystyr cwbl wahanol? Rydw i heb ddeffro'n iawn bore ma, ac yn
>> methu
>> meddwl am un enghraifft!
>>
>> Cathrin
>>
>
> Fel hy^n a hun, rhydd a rhudd, pridd a prudd, etc ...?
>
> Helen
>
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the University of Wales,
Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
|