Cefais daflen trwy'r post ddoe, wedi'i pharatoi gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn.
"Rhybudd Talu Cosb" a ddefnyddir ynddi am "Penalty Charge Notice".
Ond mae'n dweud "Beth yw'r ddirwy?" am "What's the penalty?" a "... mae'n bosib y byddwch yn
canfod Rhybudd Talu Cosb - sef Dirwy Parcio - ar ffenest eich cerbyd ..." am "... you may find a
Penalty Charge Notice - a Parking Ticket - on your windscreen ..."
Gweinyddwyr Parcio'r Cyngor yw'r enw ar y Council Parking Attendants.
(Mae ganddyn nhw swydd ddifyr ar Ynys Môn, gyda llaw:
"Decriminalised Parking Manager" / "Rheolwr Parcio Annrhoseddol" - sgwn i beth oedd y cradur yn
neud cyn iddo droi dalen newydd)
|