Dydi jôc Bruce DDIM yn ofnadwy! Mi ddaeth â gwên i'n wyneb i beth
bynnag!
Ychydig ar ôl i mi briodi a symud i'r gogledd, dw i'n cofio mynd i
ryw dre a pharcio'r car.
"Dwynith neb o fan'na does bosib," meddai'r gŵr - a minnau'n ffaelu
deall pam fyse rhywun eisiau dwyno'n car ni.
Siân
On 1 Chwef 2007, at 10:43, Ann Corkett wrote:
> Onid yw llawer o'r enghreifftiau'n dibynnu ar eich ardal a'ch
> ynganiad? I ddangos fy mod i'n ddysgwraig o hyd, mi dreuliais i
> oesoedd efo'n dosbarth cyfieithu yn y Blaenau, yn ystafell y
> cyfrifiaduron, yn ceisio eu cael nhw i ddeall ble i glicio, a
> finnau'n dweud "ar y saith" yn lle "ar y saeth".
>
> 'Roedd gan Hywel Harries y cartwnydd lun o ddyn yn wynebu ciper ar
> lan yr afon, gan ddangos ei ddwylo gwag a dweud "di-euog, syr".
>
> Mae gan Bruce ryw joc ofnadwy am hen wraig yn gweiddi ar ol dyn y
> lori lo:
> "Pryd ga i i lo?"
> "Mae'n dibynnu pryd gawsoch chi darw, misus."
>
> Ann
>
>
> ----- Original Message ----- From: "H.K.Smith"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, February 01, 2007 9:43 AM
> Subject: Re: Geiriau sy'n swnio'n debyg ond ag ystyr cwbl wahanol
>
>
> A gallai ffurfiau treigledig chwyddo nifer yr homonymau hefyd:
>
> Ffin / phin (< pin)
> Ffws / phws ( >^..^< )
>
> A cheir hefyd frawddegau hollol fwys, megis:
>
> Mae'r dyn hwn yn faswr da!
> Prynais i lo.
>
> Ac i goroni'r cwbl, rai blynyddoedd yn ôl, wrth sôn am ferch a
> oedd ar y
> pryd mewn swydd gyhoeddus, dywedodd ffrind imi fod rhai wedi'i galw'n
> "feic y werin" pan oedd yn ifanc. Doeddwn i ddim yn siwr ai 'meic y
> werin' (lladmerydd dros y bobl gyffredin) ynteu;'r llall oedd yr
> ystyr!
>
> Rwy'n berffaith siwr fod mwy na hynny o ymadroddion/geiriau mwys /
> homonymau ar gael, efallai y daw'r isymwybod â mwy o atebion imi
> maes o law.
>
> Helen
>
>
> Ysgrifennodd Cathrin Alwen:
>> Oes unrhyw un yn gwybod am eiriau Cymraeg sy'n swnio'n debyg i'w
>> gilydd ond ag ystyr cwbl wahanol? Rydw i heb ddeffro'n iawn bore
>> ma, ac yn methu meddwl am un enghraifft!
>>
>> Cathrin
>>
>
>
>
> --
> Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
> Canolfan Bedwyr
> [log in to unmask]
> Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
> est/ext 3253 (mewnol/internal)
>
> >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^<
>
>
> --
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
> The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
> Office. www.bangor.ac.uk
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.432 / Virus Database: 268.17.18/662 - Release Date:
> 31/01/2007 15:16
|