Doeddwn i ddim yn trio dweud bod 'rhybudd' yn anghywir, dim ond yn pwyntio
allan bod na anghysondebau mawr o ran y termau sy'n cael eu defnyddio, er
gwaetha ein holl ymdrechion ni fel cyfieithwyr i gael cysondeb.
'Hysbysiad' wnes i ei ddefnyddio am mai dyna oedd y term gefais i gan y
cleient, ac mai dyna oedden nhw wedi'i ddefnyddio o'r blaen.
Dydw i ddim yn ddigon o awdurdod i geisio dweud beth sy'n gywir ac anghywir!
Rydw i'n trio dilyn, cyn belled ag y galla i, be sy'n cael ei ddefnyddio gan
y Cynulliad, ond mae hynny'n gallu bod yn annodd os yw'r cleient yn mynnu
defnyddio term gwahanol.
Dwi'n meddwl mai dyna ydi'r benbleth a'r rhwystredigaeth fwyaf - be ydi'r
flaenoriaeth?
Ceisio cael cysondeb a bod yn gywir fel cyfieithydd, neu bodloni gofynion y
cleient?
Faint o awdurdod sydd gen i i ddweud wrthyn nhw eu bod nhw'n anghywir?!!
Gwenllian
----- Original Message -----
From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 15, 2007 2:22 PM
Subject: Re: Penalty Charge Notice
Ydi neges Gwenllian yn golygu, felly, nad "Rhybudd Talu Cosb" yw'r
term Cymraeg swyddogol am "Penalty Charge Notice" - O diar - a
minnau'n meddwl bod y mater wedi'i setlo!
Rhyfedd na fyddai rhyw adran gyfreithiol neu rywbeth yn rhoi sêl
bendith ar bethau fel hyn cyn iddyn nhw fynd i'r cyhoedd.
Geraint - o'n i'n meddwl mai Ann Rhinweddol oedd honno. Ond efallai
mai ar ôl iddi gael ei dadgriminaleiddio oedd hynny!
Siân
On 15 Chwef 2007, at 12:05, Gwenllian Mair Williams wrote:
> Rhyfedd iawn - mae hyn yn dangos nad ydi'r Cynghorau yn gallu
> penderfynu pa
> dermau i'w defnyddio.
> Wedi cyfieithu adroddiad ar yr un testun wythnos diwetha i un o
> adranau'r
> Cyngor, ac wedi dilyn y cyfarwyddiadau gefais i ganddyn nhw.
>
> 'dadgriminaleiddio' am decriminalisation
> hysbysiad yn hytrach na rhybudd.. a..
> doeddwn i ddim yn deall pam defnyddio cosb yn hytrach na dirwy chwaith
> ... ond dyna ni, doedd gen i ddim awdurdod i newid nac amau, a
> gorfod glynu
> at eu rhestr nhw wnes i.
>
> Pa obaith sydd gan gyfieithydd bach i drio cysoni os nad ydy nhw'n
> gallu
> penderfynu be mae nhw'n ei ddefnyddio eu hunain?!
>
> Gwenllian
>
> ----- Original Message -----
> From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, February 15, 2007 11:27 AM
> Subject: Re: Penalty Charge Notice
>
>
> Naci - "Annrhoseddol"
> On 15 Chwef 2007, at 10:54, Geraint Løvgreen wrote:
>
>> "anhroseddol" gobeithio...
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, February 15, 2007 10:05 AM
>> Subject: Re: Penalty Charge Notice
>>
>>
>> Cefais daflen trwy'r post ddoe, wedi'i pharatoi gan Gyngor Gwynedd
>> a Chyngor Ynys Môn.
>> "Rhybudd Talu Cosb" a ddefnyddir ynddi am "Penalty Charge Notice".
>>
>> Ond mae'n dweud "Beth yw'r ddirwy?" am "What's the penalty?" a "...
>> mae'n bosib y byddwch yn
>> canfod Rhybudd Talu Cosb - sef Dirwy Parcio - ar ffenest eich
>> cerbyd ..." am "... you may find a
>> Penalty Charge Notice - a Parking Ticket - on your windscreen ..."
>>
>> Gweinyddwyr Parcio'r Cyngor yw'r enw ar y Council Parking Attendants.
>>
>> (Mae ganddyn nhw swydd ddifyr ar Ynys Môn, gyda llaw:
>> "Decriminalised Parking Manager" / "Rheolwr Parcio Annrhoseddol" -
>> sgwn i beth oedd y cradur yn
>> neud cyn iddo droi dalen newydd)
|