Beth am "lleddf"? Neu "llon" hefyd, am hynny...
Ceri
Huw Roberts wrote:
>Annwyl gyfeillion,
>
>Cais anarferol.
>
>Pa air sylweddol (hynny yw, nid *a* neu *hi* neu *tu* ac yn y blaen) sydd â*r canran
>uchaf o lythrennau ar yr un rhif ar ffôn? Hynny yw, beth yw*r gair anoddaf i*w anfon fel neges
>destun o ffôn mudol, gan fod angen oedi cyn symud ymlaen i*r llythyren nesaf?
>
>Er enghraifft, mae *wythfed* yn anodd oherwydd bod *w* ac *y* mewn cyfres ac mae*r
>ddwy ar y botwm 9; wedyn mae *f* ac *e* a *d* mewn cyfres ac mae*r tair ar y botwm 3.
>Felly mae*n anodd anfon pump o*r saith llythyren yn y gair *wythfed* ar neges destun. (Yn y
>cyd-destun yma, mae*n rhaid ystyried *t* a *h* yn y gair *wythfed* yn llythrennau ar
>wahân).
>
>Enghraifft Saesneg yw *needed*, oherwydd bod *d* ac *e* ar fotwm 3.
>
>Estynnwch am eich ffonau, a diolch o flaen llaw*
>
>
>
>
>Huw Roberts
>Cyfieithydd / Translator
>(029) 2078 1432
>07957 182 087
>[log in to unmask]
>Dros Gymru'n gwlad!
>
>
--
Ceri Skinner
Swyddog Archifo'r We | Web Archiving Officer
Adran Gwasanaethau Casgliadau | Department of Collection Services
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion | Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3BU | SY23 3BU
01970 632800 est/ext 357 [log in to unmask]
|