Annwyl gyfeillion,
Cais anarferol.
Pa air sylweddol (hynny yw, nid *a* neu *hi* neu *tu* ac yn y blaen) sydd â*r canran
uchaf o lythrennau ar yr un rhif ar ffôn? Hynny yw, beth yw*r gair anoddaf i*w anfon fel neges
destun o ffôn mudol, gan fod angen oedi cyn symud ymlaen i*r llythyren nesaf?
Er enghraifft, mae *wythfed* yn anodd oherwydd bod *w* ac *y* mewn cyfres ac mae*r
ddwy ar y botwm 9; wedyn mae *f* ac *e* a *d* mewn cyfres ac mae*r tair ar y botwm 3.
Felly mae*n anodd anfon pump o*r saith llythyren yn y gair *wythfed* ar neges destun. (Yn y
cyd-destun yma, mae*n rhaid ystyried *t* a *h* yn y gair *wythfed* yn llythrennau ar
wahân).
Enghraifft Saesneg yw *needed*, oherwydd bod *d* ac *e* ar fotwm 3.
Estynnwch am eich ffonau, a diolch o flaen llaw*
Huw Roberts
Cyfieithydd / Translator
(029) 2078 1432
07957 182 087
[log in to unmask]
Dros Gymru'n gwlad!
|