Dyma'r waethaf:
7 aeddfedrwydd => 233333379933
7 anaeddfedrwydd => 26233333379933
7 anhaeddedigrwydd => 2642333334479933
7 boneddigeiddrwydd => 26633344343379933
7 rhagaeddfedrwydd => 7424233333379933
--Mark
Catrin Beard wrote:
> Mae 'eisteddfod' yn eithaf anodd, gan fod 'eddf' yng nghanol y gair, a does
> dim modd colli'r elfen honno drwy fyrhau'r gair chwaith
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Huw Roberts
> Sent: 18 May 2007 14:06
> To: [log in to unmask]
> Subject: Bysedd yn barod...
>
>
> Annwyl gyfeillion,
>
> Cais anarferol.
>
> Pa air sylweddol (hynny yw, nid *a* neu *hi* neu *tu* ac yn y blaen) sydd
> â*r canran
> uchaf o lythrennau ar yr un rhif ar ffôn? Hynny yw, beth yw*r gair anoddaf
> i*w anfon fel neges
> destun o ffôn mudol, gan fod angen oedi cyn symud ymlaen i*r llythyren
> nesaf?
>
> Er enghraifft, mae *wythfed* yn anodd oherwydd bod *w* ac *y* mewn cyfres ac
> mae*r
> ddwy ar y botwm 9; wedyn mae *f* ac *e* a *d* mewn cyfres ac mae*r tair ar y
> botwm 3.
> Felly mae*n anodd anfon pump o*r saith llythyren yn y gair *wythfed* ar
> neges destun. (Yn y
> cyd-destun yma, mae*n rhaid ystyried *t* a *h* yn y gair *wythfed* yn
> llythrennau ar
> wahân).
>
> Enghraifft Saesneg yw *needed*, oherwydd bod *d* ac *e* ar fotwm 3.
>
> Estynnwch am eich ffonau, a diolch o flaen llaw*
>
>
>
>
> Huw Roberts
> Cyfieithydd / Translator
> (029) 2078 1432
> 07957 182 087
> [log in to unmask]
> Dros Gymru'n gwlad!
>
|