Tueddaf i gytuno y byddai'n dibynnu ar gynnwys, diben, a chynulleidfa arfaethedig, y ddogfen sydd i'w chyfieithu. Dylid egluro'r rhain, a phob agwedd berthnasol, wrth y cleient, gan sicrhau'i b/fod yn deall yr holl oblygiadau.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Howard Huws
Sent: 02 June 2009 09:07
To: [log in to unmask]
Subject: Amser i gyfieithu
Ie, wel, mae'n dibynnu i raddau helaeth ar y testun. Mae cyfieithiadau sy'n
gorfod bod yn union, fanwl gywir, rhai meddygol neu gyfreithiol, e.e., yn rhwym
o gymryd rhagor o amser na llythyr syml. Os yw'r testun gwreiddiol yn
llawn "jargon", neu'n trafod dirgelion maes nad yw'r cyfieithwyr termau wedi'i
drin hyd yn hyn, gallwch fod wrthi am oriau. Gall cyfieithu slogan pum gair, hyd
yn oed, gymryd hanner awr. Dywed rhai fod tua 5,000 o eiriau'r diwrnod yn
gyfanswm da, ond wela'i ddim sut y gellid rhwymo neb i nifer ddyddiol benodol.
Afresymol fyddai hynny.
|