Mea culpa. Wedi gwasgu'r botwm anghywir. Diolch o galon am dynnu fy sylw at hyn.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 22 June 2009 10:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: CYFARFOD: Geiriadur Prifysgol Cymru: Cynllunio ar gyfer y
dyfodol
Maddeuwch imi am ymyrryd. 'Dw i ddim yn siwr bod Andrew yn monitro W-T-C yn
ddigon aml i godi bob neges bersonol, ac efallai byddai'n well anfon
sylwadau ynghylch y cyfarfod ato'n uniongyrchol. ('Dw i eisoes wedi tynnu ei
sylw at yr un gan Megan.)
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 22 June 2009 10:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: CYFARFOD: Geiriadur Prifysgol Cymru: Cynllunio ar gyfer y
dyfodol
Annwyl Andrew,
Diolch yn fawr am y gwahoddiad. Gwaetha'r modd, mae'n debyg na fydd modd i
neb ohonom fod yn bresennol gan taw Uned fach ydym ni ac yn drybeolig o
brysur ar hyn o bryd. Er hynny, fel defnyddwyr cyson rydym yn dilyn holl
ddatblygiadau'r Geiriadur â diddordeb mawr. Tybed a fyddai modd i ni dderbyn
unrhyw wybodaeth a ddaw o'r cyfarfod hwn ac unrhyw ddatblygiadau pellach?
Cofion,
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Andrew Hawke
Sent: 16 June 2009 14:46
To: [log in to unmask]
Subject: CYFARFOD: Geiriadur Prifysgol Cymru: Cynllunio ar gyfer y
dyfodol
CYFARFOD CYHOEDDUS
Geiriadur Prifysgol Cymru : Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Cynhelir cyfarfod pwysig yn dilyn Cynhadledd Edward Lhuyd (Canolfan
Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth) i
drafod cynlluniau Geiriadur Prifysgol Cymru ar gyfer y dyfodol. Mae
croeso i bawb ddod i'r cyfarfod a gobeithio bydd cynifer o
ddefnyddwyr y Geiriadur â phosibl yn mynychu'r cyfarfod. (Nid oes
rhaid i chi fynychu'r Gynhadledd i gael dod i'r cyfarfod hwn.)
Mae'r gwaith o ailolygu'r llythrennau A-B o'r argraffiad cyntaf yn
tynnu at ei derfyn ac mae angen paratoi cynlluniau ar gyfer dyfodol y
Geiriadur. Mae'n fwriad parhau i ailolygu'r holl Eiriadur ac mae
dulliau cyfrifiadurol newydd yn cynnig pob math o bosibiliadau
cyffrous. Bydd cyflwyniad byr ar waith tîm y Geiriadur ynghyd ag
awgrymiadau ar gyfer datblygiau'r dyfodol. Mae'r staff yn awyddus i
glywed barn defnyddwyr y Geiriadur a'u gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Hyd yn oed os nad ydych yn defnyddio'r Geiriadur yn rheolaidd hoffem
wybod beth sy'n eich rhwystro rhag gwneud hynny ac a oes unrhyw beth
y gallwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa. Oni fedrwch ddod i'r
cyfarfod hoffem dderbyn eich sylwadau.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell A12 yn Adeilad Hugh Owen (prif
ddarlithfa'r Gynhadledd) ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth gan
ddechrau am 9:30 fore dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2009.
Croeso i bawb. Nid oes angen cadw lle.
Manylion cysylltu:
Geiriadur Prifysgol Cymru,
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH
ffôn: 01970 639094 ffacs: 01970 631039
e-bost: [log in to unmask]
gwe: www.cymru.ac.uk/geiriadur/
Cynhadledd Edward Lhuyd: http://www.cymru.ac.uk/defaultpage.asp?page=C4063
|