Mae hyn yn codi nifer o gwestiynau diddorol o ran cywair ac ati. Ond
mae cwestiwn arall, sef beth yw pwrpas llyfrau i blant? Pan fyddaf i'n
darllen i'm mab dwy oed dw i'n defnyddio'r llyfrau i'm helpu i ymestyn
ei iaith ac mae osgoi defnyddio rhai geiriau arferol 'rhag ofn' na
fydd y plant yn eu deall yn sicrhau na fydd y plant byth yn eu deall!
Dw i ddim yn gweld dim byd yn bod ar ddefnyddio ffurfiau fel 'am' a
'dymuno' yn y cyd-destun yma (ac mae plant bach yn clywed dymuno yn y
cylch Ti a Fi) ac yn clywed 'am' yn naturiol gartref.
|