Diolch i chi am ymateb i 'nghais am ragor o wybodaeth am ddosbarthiad
daearyddol ystyr yr arddodiad 'am'. Gan nad oes neb wedi gwrthddweud honiad
Geraint fod 'am' yn cyfleu 'mynd i/bwriad' ym mhob rhan o'r gogledd,
byddai'n ddiddorol gwybod ble'r mae'r ffin ddaearyddol rhwng y ddwy ystyr.
Clywais yr Arglwydd Dafydd Elis-Tomas ar y radio gynnau'n dweud 'Rydyn ni am
gynnal arolwg o ...', ymadrodd a allai gyfleu'r naill ystyr a'r llall, ond
roedd hi'n amlwg mai 'Rydyn ni'n mynd i ...' oedd yr ystyr roedd e'n
ceisio'i gyfleu.
Cwestiwn sy'n codi yn sgil hyn oll yw a ddylem ni fod yn ofalus wrth
ddefnyddio 'am' wrth gyfieithu. Ers rhai blynyddoedd, rwy' wedi osgoi
defnyddio'r gair rhag i mi gamarwain y darllenydd, ac wedi defnyddio
ffurfiau amodol 'hoffi', neu 'awydd' neu 'eisiau', i gyfleu'r ystyr ddeheuol
(safonol?) a 'mynd i/bwriad(u)' i gyfleu'r ystyr ogleddol.
Hyd y gwela i, does dim arweiniad ynghylch ystyr 'am' yn Gramdeg y Gymraeg
Peter Wynn.
(Mater arall yw arfer rhai o bobl Ceredigion - Geraint Lloyd Radio Cymru yn
eu plith - o ddweud 'beth ych chi am?', sef cyfieithiad llythrennol,
efallai, o 'what do you want?')
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 07, 2008 9:49 AM
Subject: Re: want
Un peth - dydi "am" ddim yn golygu "eisiau" i blant y Gogledd...
Er mor anfoddhaol, dwi'n meddwl mai arddull beibl.net ydi'r gorau yn y
cyd-destun yma, gan dy fod yn ceisio defnyddio arddull eitha anffurfiol.
|