Ymhlith y pathau da ("goodies") eraill sydd/a oedd ar gael trwy wefan
Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ceir:
Termau Cyfrifeg a ddetholwyd ar gyfer Cyfieithu Cyfrifon Cymraeg
Wil Petherbridge, Yr Uned Gyfieithu, Gwanwyn 1996
Cwrs Tystysgrif Uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol, Cwrs
Tystysgrif Uwchraddedig, Y Ganolfan Addysg Barhaus, Prifysgol Cymru,
Aberystwyth
Yn ol y rhestr hon, "o^l-gofnodi" yw "write-back".
Ann
----- Original Message -----
From: "Sylvia Prys Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, August 12, 2005 5:17 PM
Subject: Re: write-back
> Mae'n ddeg munud wedi pump ac mae unrhyw un call wedi cau'r mwdwl am y
> penwythnos ond dw i'n ysgrifennu'r neges yma tra bo'r geiriadur ar agor
o'm
> blaen.
> Dw i'n cyfieithu cyfrifon ac mae'r ymadrodd write back capital cost wedi
> codi. Yn ôl yr OED ystyr write-back ydi - the process of restoring to
profit
> a provision for bad or doubtful debts previously made against profits and
no
> longer required.'
>
> Dw i ddim yn siwr beth ydi'r gwahaniaeth rhwng write-back a write-off -
> mae yna wahaniaeth, ond un rhy astrus i mi ei ddeall.
>
> Fydda i ddim yn gorffen y gwaith yma heddiw felly bydd dydd Llun yn ddigon
> buan i ateb!
>
> Diolch ymlaen llaw.
>
> Sylvia.
>
>
|