Lle byddai Lleidr Pen Ffordd T Llew Jones yn ffitio i mewn? The Thief on
the Corner?
Ann
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, August 12, 2005 2:20 PM
Subject: Re: Trunk Road
> Wel, dwi'n meddwl mai'r syniad oedd mai "cefn" h.y. asgwrn cefn ydoedd, yr
> un peth â "trunk" yn Saesneg. Roedd cefnffordd yn awgrymu ffordd gefn i
> minnau, ond mi ddes i i arfer gyda'r peth. Ac mae hanes parchus i'r gair
fel
> y gwelwch yng Ngeiriadur y Brifysgol tud 447.
>
> Mae gen i gof bod angen gwahaniaethu rhwng 'link road' (ffordd gyswllt) a
> 'connecting road' (ffordd gysylltu) ar un adeg hefyd.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, August 12, 2005 12:42 PM
> Subject: Re: Trunk Road
>
>
> Mae'n bosib mai penderfyniad yr asiantaeth ei hun, neu ei chyfieithwyr
> anwybodus / penderfynol, yw defnyddio 'prif ffyrdd' yn lle 'cefnffyrdd' ac
> mai'r cyfan sydd yn Term Cymru yw cofnod o hynny. Yn fy nyddiau i yn y
> Swyddfa Gymreig, 'ffordd gysylltu' ddywedem ni am 'trunk road', ond
> penderfynwyd, ar ôl i mi adael, ddilyn arfer Cyngor Sir Gwynedd a dweud
> 'cefnffordd'.
>
> Ar ba sail y penderfynwyd arfer 'cefnffordd' yng Ngwynedd, wn i ddim. I
mi,
> mae'n golygu 'ffordd gefn'. Os bwriedir ffurfio cwlwm newydd o elfennau
mewn
> term, fe ddylai gyfleu rhywfaint o ystyr y term: dyw 'cefnffordd' ddim yn
> gwneud hynny.
>
> Gyda llaw, 'ffordd gyswllt' ddefnyddiem ni am 'link road'.
>
> Tybed a allai Geraint esbonio bathiad rhyfedd y cesys oedd yng Ngwynedd
nôl
> yn y dyddiau cynnar?
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, August 12, 2005 11:35 AM
> Subject: Trunk Road
>
>
> > Dyma ffaith fach diddorol 'rwyf newydd ei ddarganfod o DermCymru.
> >
> > 'Roeddwn i eisoes yn gwybod bod y Cynulliad yn defnyddio "cefnffordd" ar
> > gyfer "trunk road", a "phriffordd" ar gyfer "highway", ac wedi dilyn yr
un
> > arfer. Ond yn awr gwelaf - o DermCymru eto - nad yw'r "Trunk Road
> > Agencies"
> > eu hunain yn dilyn yr arfer hon, e.e. Asiantaeth Prif Ffyrdd (dau air)
> > Gogledd Orllewin Cymru".
> >
> > Dim awgrymiadau na sylwadau gen i, jyst ffaith fach syml i sirioli'ch
> > diwrnod.
> >
> > Ann
> >
> >
> >
> > --
> > No virus found in this incoming message.
> > Checked by AVG Anti-Virus.
> > Version: 7.0.338 / Virus Database: 267.10.7/70 - Release Date:
11/08/2005
> >
> >
>
>
|