Mae'n ddeg munud wedi pump ac mae unrhyw un call wedi cau'r mwdwl am y
penwythnos ond dw i'n ysgrifennu'r neges yma tra bo'r geiriadur ar agor o'm
blaen.
Dw i'n cyfieithu cyfrifon ac mae'r ymadrodd write back capital cost wedi
codi. Yn ôl yr OED ystyr write-back ydi - the process of restoring to profit
a provision for bad or doubtful debts previously made against profits and no
longer required.'
Dw i ddim yn siwr beth ydi'r gwahaniaeth rhwng write-back a write-off -
mae yna wahaniaeth, ond un rhy astrus i mi ei ddeall.
Fydda i ddim yn gorffen y gwaith yma heddiw felly bydd dydd Llun yn ddigon
buan i ateb!
Diolch ymlaen llaw.
Sylvia.
|