Rhywbryd yn 2001 'roedd cwestiwn ynghylch enwau strydoedd Caerydd. Afonodd
Catherine Jones restr y Cyngor, gan ychwanegu:
“Mae'r holl enwau strydoedd eraill yn aros fel y maen nhw - h.y. y rhai
Cymraeg yn Gymraeg a'r rhai Saesneg yn Saesneg, felly Fairwater Road sy'n
gywir. ( Y rheswm dros hynny yw bod ambell i enw'n gallu peri dryswch e.e.
mae Heol y Felin a Mill Road yn bodoli mewn un ardal o Gaerdydd).”
Cedwais gopi o'r rhestr, nad yw'n cynnwys "Cathedral Road". cymeraf, felly,
nad oes fersiwn swyddogol.
Ann
----- Original Message -----
From: Melanie Davies <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 11, 2003 4:00 PM
Subject: Cathedral Road
Tybed a allwch fy helpu? Yn reddfol, rwyf am alw Cathedral Road yng
Nghaerdydd yn Heol y Gadeirlan ond mae llawer o fudiadau/sefydliadau yng
Nghaerdydd yn ei alw'n Heol/Ffordd yr Eglwys Gadeiriol yn eu cyfeiriadau. A
oes rhywun yn gwybod pa un yw'r un cywir?
Diolch
Melanie Davies
Cyfieithydd/Translator
Cyfiaith
Ffn/Tel. 01239 711668
Anfonwch unrhyw waith cyfieithu at / Please send any translation work to:
[log in to unmask]
Message has been scanned by Webshield
Message has been scanned by Webshield
|