Dwi'n cael trafferth efo capacity hefyd - on i'n meddwl ein bod ni wedi
cael y drafodaeth o'r blaen? Bron nad oes gofyn defnyddio gair/ymadrodd
gwahanol bob tro. Y tro dwytha ges i drafferth efo fo ofynnais i ai diffyg
staff/adnoddau/arian oedd dan sylw a chael yr ateb, ia, ond doedden nhw
ddim am gyfadda hynny felly roedd rhaid cadw'r peth yn amwys!! Be fydda i'n
ei ddefnyddio am 'capacity building' yn yr ystyr cymdeithasol, adfywio
cymuneda ayyb, nid adeilada llawn, ydi 'meithrin galluoedd' - wn i na dydi
hynny'n fawr o gaffaeliad yn yr achos yma ond mi allai fod o fudd rywbryd eto.
Annes
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.509 / Virus Database: 306 - Release Date: 12/08/03
|