Mae problem yn codi gyda'r gair yma, mewn cyd-destun milwrol. Mae Geiriadur yr Academi yn rhoi 'adran' ar gyfer 'division' (sef tua 10,000 o filwyr) a 'section' (sef tua deg o filwyr -'squad' mewn defnydd Americanaidd). Ni fyddai ceisio gwahaniaethu drwy ychwanegu 'fawr' neu 'fach' ond yn ychwanegu at yr amwysedd, gan na allai'r sawl a ddarllenai'r geiriau 'adran fawr' fod yn sicr ai 14,000 neu 14 o wyr oedd dan sylw. Tybed a fyddai modd ddod allan o'r dryswch drwy addasu term o fyd llywodraeth leol? Sylwais wrth wneud gwaith cyfieithu fod rhai cynghorau yn defnyddio'r term 'adain' i ddynodi isadran tu fewn i'w gweinyddiaeth. Gwn y byddai 'adain' yn cyfateb yn amlwg i 'wing' mewn llu awyr, ond nid oes hanner cymaint o berygl cymysgu yno yn fwy nag y mae'r 'capten' wedi dioddef am olygu pethau gwahanol ar y tir ac ar y môr.
Unrhyw gynigion?
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|