Fe ellir, mae'n wir, defnyddio un gair ar gyfer dau gysyniad hollol wahanol yn yr un cyd-destun, ond ni allaf weld pam y dylai rhywun wneud lle nad oes angen.
O dderbyn y dryswch at ddibenion ateb y cwestiwn (a charwn awgrymu, gyda phob dyledus ostyngeiddrwydd, nad doeth o beth fyddai llwyr anwybyddu defnydd cyson ac awdurdodol gan arbenigwyr), sut y byddai rhywun yn cyfieithu 'Corporal Jones, pick a squad from your section and have them gather up every piece of rubbish from here to the range.'?
Tim
O.N. Mea culpa - anghofiais ddefnydd milwrol rhagor llyngesol o'r term party, sef colour party, h.y. y nifer fechan o wyr a benodir i gludo baner neu luman. Diau ein bod i gyd yn cofio Parti Lliw [sic] Meibion Glyndwr, o barchus, wel, o ryw goffadwriaeth neu'i gilydd. Er bod 'lliw' yn drosiad neilltuol o garbwl a colours , y mae'r patrwm 'parti + [enw/berfenw] wedi hen ennill ei blwyf (e.e. 'parti dawns', 'parti penillion', 'Parti Pantucha', ayyb]. Os penderfyna'r Meibion ymddangos yn gyhoeddus eto, tybed a fydd modd eu perswadio i'w galw'u hunain yn 'Parti Baner'?
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 09/20/00 02:20pm >>>
Ni welaf unrhyw ddryswch o fewn cyd-destun. Gellir dweud carfan ar gyfer y
ddwy ystyr, ffurfiol a llai ffurfiol.
Bruce
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|