Maddeuer imi os nad eglurais yn ddigon eglur parthed y gwahaniaeth rheng 'squad' a 'section'. Dyma, yn anffodus, enghraifft eraill o sut y gwahenir ein cymdogion a thrigolion yr Unol Daleithiau gan iaith gyffredin. Y mae yma dwy gysyniad ar wahan, a ddynodir fel a ganlyn:
1 Nifer amhenodol o wyr, ni waeth o ba uned,k wedi'u neilltuo at dasg neu ddiben arbennig, boed glanhau'r tai bach, crafu tatw, cludo baner, neu saethu troseddwr.
Y Fyddin Brydeinig - 'squad'
Y Llynges Brydeinig - 'party'
Byddin UDA - 'detail'
2 Uned o ryw ddeg o wyr. Bydd rhyw dair neu bedair o'r unedau hyn fel arfer yn cyfansoddi platwn.
Y Fyddin Brydeinig - 'section'
Byddin UDA - 'squad'
Os nad ydym am drosglwyddo'r dryswch en bloc i'r Gymraeg, yna bydd angen un gair ar gyfer 1), a gair arall ar gyfer 2).
Derbyniaf y rhesymau dros ymwrthod ag 'adain', ond wrth gwrs a fortiori am yr un rhesymau rhaid gwrthod 'criw' hefyd (er gwaethaf hen ymadroddion Aberaidd fel 'Criw Duw'!). Mae 'carfan' yn sicr yn bosibilrwydd, ac ar un adeg fe roedd tuedd i gyfeirio at nifer fechan o wyr, wedi'u harwain i gyd gan un is-swyddog, fel 'cwlwm'. Beth yw barn y brodyr a'r chwiorydd?
Tim
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 09/19/00 02:16pm >>>
Os yw'r Americanwyr yn defnyddio "squad", beth am inni ddweud "carfan" neu
"criw", neu "sgwad"? Ni ellid yn rhesymol dderbyn "adain", sy'n awgrymu
grw^p mawr iawn - "wing" = "an air-force unit of several squadrons or
groups" (Concise Oxford), *nid* rhyw ddeg o filwyr.
Bruce
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|