Mae'r defnydd o 'sgwad' yn Llangrannog yn cyafteb yn union i'r defnydd yn y Fyddin Brydeinig (hmm), sef criw bach wedi'i ddethol at ddiben arbennig - 'detail' ym Myddin yr Unol Daleithiau, 'party' yn y Llynges Brydeinig, ac rwy'n siwr bod llawer o amrywiadau eraill. Ond mae 'section' yn dynodi uned bendant, llae gallai pobl gael eu dethol o sawl uned er mwyn ffurfuio 'sgwad' at ryw ddiben arbennig. Fel arfer, rhyw 3-4 'section' sy'n ffurfio platwn - ymhlith y gwyr traed, fodd bynnag.
>>> Elin Williams <[log in to unmask]> 09/19/00 11:37am >>>
Mae 'sgwad' yn dwyn atgofion melys o wersyll Llangrannog yn y 60au - criw
bach wedi eu dethol (ar hap yn y cyswllt hwnnw wrth gwrs) ar gyfer ymgyrch
arbennig (brecast, cinio .... )
Gallai fenthyg ei hun i hyn o bosibl.
Elin
>Mae problem yn codi gyda'r gair yma, mewn cyd-destun milwrol. Mae Geiriadur
yr Academi yn rhoi 'adran' ar gyfer 'division' (sef tua 10,000 o filwyr) a
'section' (sef tua deg o filwyr -'squad' mewn defnydd Americanaidd). Ni
fyddai ceisio gwahaniaethu drwy ychwanegu 'fawr' neu 'fach' ond yn ychwanegu
at yr amwysedd, gan na allai'r sawl a ddarllenai'r geiriau 'adran fawr' fod
yn sicr ai 14,000 neu 14 o wyr oedd dan sylw. Tybed a fyddai modd ddod allan
o'r dryswch drwy addasu term o fyd llywodraeth leol? Sylwais wrth wneud
gwaith cyfieithu fod rhai cynghorau yn defnyddio'r term 'adain' i ddynodi
isadran tu fewn i'w gweinyddiaeth. Gwn y byddai 'adain' yn cyfateb yn amlwg
i 'wing' mewn llu awyr, ond nid oes hanner cymaint o berygl cymysgu yno yn
fwy nag y mae'r 'capten' wedi dioddef am olygu pethau gwahanol ar y tir ac
ar y môr.
>Unrhyw gynigion?
>
>
>
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|