Well gen i hwnnw na 'disgyn' hefyd.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint
Lovgreen
Anfonwyd: Dydd Mercher, 23 Mawrth 2016 14:56
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Cyclists dismount
Dwi'n meddwl bod Claire eisoes wedi dweud ei bod yn mynd am "Dewch oddi ar
eich beic" - hwnna di'r gorau gen i hefyd.
On 23/03/2016 14:46, Geraint Jones wrote:
> Hyd y gwela i nid oes deddfwriaeth yn penodi'r cyfieithiad (gan nad
> oedd ar gael ym 1985). Wela i ddim o'i le ar "Beicwyr/Man Disgyn".
> Efallai ei fod yn codi hwyl, ond dim ond gan ein bod ni wedi arfer
> peidio chwerthin am ben y Saesneg ar arwyddion sy'n od ar y naw pan
> fydd rhywun yn ei weld trwy lygad newydd.
>
> Rhaid peidio creu'r argraff mai gorchymyn syd yma, gan mai dim ond
> cynghorol yw'r arwydd yn ol deddf. Ac mae'r Canllaw swyddogol yn
> dweud na ddyli ond ei ddefnyddio ar ddiwedd llwybr beidio sydd mewn
> peryg o arwain beiciwr i fynd yn ei flaen i rhwyle nad yw becio'n
> gyfreithlon. Nid mai dyna sut y'i defnyddir fel arfer.
>
|