Dwi'n credu bod grym cyfreithiol yr arwyddion yn dibynnu ar le maen nhw.
Fel arfer mae'n anghyfreithlon beicio ar balmant neu lwybr troed dynodedig, ond mewn rhai mannau caniateir i feicwyr rannu'r palmant neu'r llwybr gyda cherddwyr. Fodd bynnag, ar ddarnau lle maen nhw'n gul, mae'n bosibl bod y caniatād yn cael ei dynnu'n ōl, a bod yn rhaid i feicwyr gerdded a gwthio eu beiciau nes cyrraedd darn lletach. Yn fan'no, mae'n ddigon posibl y byddai grym cyfreithiol i arwyddion sy'n dweud wrth feicwyr i gerdded.
Dwi'n *meddwl* mai mewn maes parcio y bydd yr arwydd sydd dan sylw gen i, a byddwn i'n meddwl mai perchennog y tir sy'n gwneud y rheolau yn fan'no.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Jones
Sent: 23 March 2016 14:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyclists dismount
Hyd y gwela i nid oes deddfwriaeth yn penodi'r cyfieithiad (gan nad oedd ar gael ym 1985). Wela i ddim o'i le ar "Beicwyr/Man Disgyn".
Efallai ei fod yn codi hwyl, ond dim ond gan ein bod ni wedi arfer peidio chwerthin am ben y Saesneg ar arwyddion sy'n od ar y naw pan fydd rhywun yn ei weld trwy lygad newydd.
Rhaid peidio creu'r argraff mai gorchymyn syd yma, gan mai dim ond cynghorol yw'r arwydd yn ol deddf. Ac mae'r Canllaw swyddogol yn dweud na ddyli ond ei ddefnyddio ar ddiwedd llwybr beidio sydd mewn peryg o arwain beiciwr i fynd yn ei flaen i rhwyle nad yw becio'n gyfreithlon. Nid mai dyna sut y'i defnyddir fel arfer.
|