Well gen i hwnnw na 'disgyn' hefyd. Carolyn -----Neges Wreiddiol/Original Message----- Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen Anfonwyd: Dydd Mercher, 23 Mawrth 2016 14:56 At: [log in to unmask] Pwnc: Re: Cyclists dismount Dwi'n meddwl bod Claire eisoes wedi dweud ei bod yn mynd am "Dewch oddi ar eich beic" - hwnna di'r gorau gen i hefyd. On 23/03/2016 14:46, Geraint Jones wrote: > Hyd y gwela i nid oes deddfwriaeth yn penodi'r cyfieithiad (gan nad > oedd ar gael ym 1985). Wela i ddim o'i le ar "Beicwyr/Man Disgyn". > Efallai ei fod yn codi hwyl, ond dim ond gan ein bod ni wedi arfer > peidio chwerthin am ben y Saesneg ar arwyddion sy'n od ar y naw pan > fydd rhywun yn ei weld trwy lygad newydd. > > Rhaid peidio creu'r argraff mai gorchymyn syd yma, gan mai dim ond > cynghorol yw'r arwydd yn ol deddf. Ac mae'r Canllaw swyddogol yn > dweud na ddyli ond ei ddefnyddio ar ddiwedd llwybr beidio sydd mewn > peryg o arwain beiciwr i fynd yn ei flaen i rhwyle nad yw becio'n > gyfreithlon. Nid mai dyna sut y'i defnyddir fel arfer. >