Cwestiwn arall - symlach, gobeithio - ynghylch Thunderbird.
Pan ddefnyddiwn i Outlook, 'roeddwn wedi cysylltu Cysill a'r rhaglen a
medru gwirio negeseuon 'in situ'. Erbyn hyn, rhaid eu trosglwyddo i
Word, sy'n rhwystr os bydd rhywun yn ddiog. Oes modd trefnu gwirio
negeseuon yn Thunderbird?
Diolch,
Ann
On 02/01/2015 09:55, Geraint Lovgreen wrote:
> Helo bawb a Blwyddyn Newydd Dda!
>
> Dwi wedi troi at raglen e-bost Mozilla Thunderbird ar ôl cael
> problemau gyda fy hen raglen. Mae'r rhaglen ar gael mewn sawl iaith yn
> cynnwys Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Basgeg ond nid yn Gymraeg, sydd
> yn ddiffyg anarferol y dyddiau hyn. Mae 'na fodd i gyfieithu'r rhaglen
> drwy ddilyn dolen 'localisation' ond mae'r holl broses yn edrych
> braidd yn annealladwy i mi. Petai rhywun sy'n dallt cyfrifiaduron yn
> gallu cychwyn y broses mi fyddwn yn fodlon cyfrannu at y gwaith
> cyfieithu. Mae Mozilla Firefox gen i ac mae hwnnw'n Gymraeg, felly pam
> ddim Thunderbird.
>
> Geraint
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4257/8854 - Release Date: 01/02/15
>
|