Cwestiwn arall - symlach, gobeithio - ynghylch Thunderbird. Pan ddefnyddiwn i Outlook, 'roeddwn wedi cysylltu Cysill a'r rhaglen a medru gwirio negeseuon 'in situ'. Erbyn hyn, rhaid eu trosglwyddo i Word, sy'n rhwystr os bydd rhywun yn ddiog. Oes modd trefnu gwirio negeseuon yn Thunderbird? Diolch, Ann On 02/01/2015 09:55, Geraint Lovgreen wrote: > Helo bawb a Blwyddyn Newydd Dda! > > Dwi wedi troi at raglen e-bost Mozilla Thunderbird ar ôl cael > problemau gyda fy hen raglen. Mae'r rhaglen ar gael mewn sawl iaith yn > cynnwys Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Basgeg ond nid yn Gymraeg, sydd > yn ddiffyg anarferol y dyddiau hyn. Mae 'na fodd i gyfieithu'r rhaglen > drwy ddilyn dolen 'localisation' ond mae'r holl broses yn edrych > braidd yn annealladwy i mi. Petai rhywun sy'n dallt cyfrifiaduron yn > gallu cychwyn y broses mi fyddwn yn fodlon cyfrannu at y gwaith > cyfieithu. Mae Mozilla Firefox gen i ac mae hwnnw'n Gymraeg, felly pam > ddim Thunderbird. > > Geraint > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4257/8854 - Release Date: 01/02/15 >