Helo bawb a Blwyddyn Newydd Dda!
Dwi wedi troi at raglen e-bost Mozilla Thunderbird ar ôl cael problemau
gyda fy hen raglen. Mae'r rhaglen ar gael mewn sawl iaith yn cynnwys
Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Basgeg ond nid yn Gymraeg, sydd yn ddiffyg
anarferol y dyddiau hyn. Mae 'na fodd i gyfieithu'r rhaglen drwy ddilyn
dolen 'localisation' ond mae'r holl broses yn edrych braidd yn
annealladwy i mi. Petai rhywun sy'n dallt cyfrifiaduron yn gallu cychwyn
y broses mi fyddwn yn fodlon cyfrannu at y gwaith cyfieithu. Mae Mozilla
Firefox gen i ac mae hwnnw'n Gymraeg, felly pam ddim Thunderbird.
Geraint
|