Ydi "oven tray" run peth â baking tray? "tun pobi bas"?
Siân
On 2014 Tach 21, at 11:19 AM, Neil Shadrach wrote:
> Wrth sôn am "trays" - beth yw "oven tray"? "Padell ffwrn"?
>
> "Scotch tape" yw tâp gludiog yn ardal Gorseinon rwy'n credu :)
>
>
>
> 2014-11-21 10:52 GMT+00:00 David Bullock <[log in to unmask]>:
>> Pan es i i weithio yn y Swyddfa Gymreig ers lawer dydd, 'calch' oedd enw
>> Berwyn ar Tippex, ac 'incil glud' oedd Sellotape.
>>
>> Rwy'n credu mai bathiadau gan Moc Rogers oedd y rhain: Mary fyddai'n gallu
>> cadarnhau mae'n debyg.
>>
>> (Padell mewn a mâs oedd yr in tray a'r out tray.)
>>
>>
>>
>> 2014-11-21 10:09 GMT+00:00 Geraint Lovgreen
>> <[log in to unmask]>:
>>>
>>> Dilëwr glywais i, neu rwbiwr – gan y plant o bosib.
>>>
>>> Rwbiwr fyswn i’n ddeud – mae rybar yn cyfleu rhywbeth eitha gwahanol i fi!
>>>
>>> Geraint
>>>
>>> From: Sian Roberts
>>> Sent: Thursday, November 20, 2014 7:50 PM
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: Re: pen
>>>
>>> Ie! Jest meddwl eu bod nhw'n mynd braidd dros ben llestri yno!
>>>
>>> Ond wedyn mae rhywun wedi dod i ddweud cyfrifiadur a cyfrifiannell yn
>>> hollol naturiol.
>>> Mae'n anodd gwybod lle mae tynnu'r llinell.
>>>
>>> Siân
>>>
>>>
>>>
>>> On 2014 Tach 20, at 7:39 PM, anna gruffydd wrote:
>>>
>>> dileuydd? on i'n meddwl mai peth i sgwennu oedd sgrifbin - siawns nad
>>> rybar ydi dileuydd???!!
>>>
>>> Anna
>>>
>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>> Tread with care and not in haste!
>>>
>>> 2014-11-20 20:20 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Ie, wnes i holi ar Facebook neithiwr i weld a gawn ni wybod beth y mae
>>>> ysgolion yn ei ddefnyddio.
>>>> Yr unig beth a ddysgais oedd bod plant rhai ysgolion Cymraeg yn y de
>>>> slawer dydd yn dweud "ysgrifbin" ond eu bod hefyd yn dweud "dileuydd"!!
>>>>
>>>> Siân
>>>>
>>>> On 2014 Tach 20, at 6:11 PM, Eluned Mai wrote:
>>>>
>>>> Ia, dwi'n gwybod beth rwyt ti'n feddwl ond mae plant ysgolion Cymraeg yn
>>>> defnyddio termau na fasai eu rhieni byth yn dychmygu eu defnyddio. Tasai'r
>>>> ysgolion yn defnyddio sgrifbin, dyna fasai'r plant yn ei ddefnyddio. Does
>>>> dim rhaid ei gladdu am ei fod wedi mynd allan o ffasiwn.
>>>> A does dim ffurf luosog i 'beiro' heb ychwanegu'r 's' Saesneg.
>>>>
>>>> Oes rhaid i sgrifbin fod yn hen deip steilus efo inc?
>>>>
>>>> 2014-11-20 15:42 GMT+00:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>>>>>
>>>>> Ond, wrth gyfieithu am bethau bob-dydd, mae rhyw fath o ddyletswydd
>>>>> arnon ni ddefnyddio iaith bob-dydd.
>>>>> Alla i ddim dychmygu defnyddio'r gair "(y)sgrifbin" wrth siarad â neb.
>>>>> Mae beiro'n cael ei ynganu yn y ffordd Gymraeg a'i dreiglo.
>>>>>
>>>>> Siân
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>> On 2014 Tach 20, at 12:51 PM, Eluned Mai wrote:
>>>>>
>>>>> Ia, o leiaf rydyn ni wedi gwneud hynny. Ond tybed ydy o'n ddigon da?
>>>>> Yn enwedig gan fod gennym ni air pwrpasol yn barod, y mae'r rhan fwyaf o
>>>>> bobl, am wn i, yn gwybod beth yw ei ystyr, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n ei
>>>>> ddefnyddio. Mwya'n byd o eiriau benthyg rydyn ni'n eu mabwysiadu, lleia'n
>>>>> byd o gadarnleoedd fydd gennym ni i adeiladu arnyn nhw a bydd yr hen iaith
>>>>> yn dlotach ac yn wannach o'r herwydd. Dwi'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud
>>>>> hynny i ryw raddau efo pethau cwbl newydd - ac roedd beiro'n gwbl newydd ar
>>>>> un adeg, ond bellach mae'n cael ei ddefnyddio am ysgrifbinnau sydd ddim yn
>>>>> feiros. Mae 'ysgrifbin' yn air bach hollgynhwysol.
>>>>>
>>>>> 2014-11-20 10:36 GMT+00:00 megan tomos <[log in to unmask]>:
>>>>>>
>>>>>> Mi ryden ni wedi Cymreigio'r ynganiad Saesneg o leiaf fel yr ydym wedi
>>>>>> ei wneud efo marmalade a sellotape. Ydi hynny ddim digon da?
>>>>>>
>>>>>> Tydi ynganiad y Ffrancod o weekend ddim byd tebyg i weekend y Saeson er
>>>>>> bod ein hwicend ni. Ond os yden ni'n ei dreiglo fel yna a oes angen inni
>>>>>> boeni. Onid 'gobaith mawr y ganrif', chwedl Jarman, ydi "dy jips" a
>>>>>> "nhiocled"?
>>>>>>
>>>>>> Megan
>>>>>>
>>>>>> ----Original message----
>>>>>> From : [log in to unmask]
>>>>>> Date : 20/11/2014 - 10:07 (UTC)
>>>>>>
>>>>>> To : [log in to unmask]
>>>>>> Subject : Re: pen
>>>>>>
>>>>>> Ia, dwi'n gwybod. Meddwl oeddwn i tybed sut mae'r gair yn cael ei
>>>>>> ynganu mewn Hwngareg ac mai dyna ddylai'r sillafiad Cymraeg fod wedi'i
>>>>>> efelychu, nid yr ynganiad Seisnig. Mi driais i ddod o hyd i'r ynganiad ar y
>>>>>> We ac mi glywais i rywbeth tebyg i 'byro'. Does gen i ddim syniad a yw
>>>>>> hynny'n iawn ai peidio. A dwi'n gwybod na wnaiff y sillafiad Cymraeg fyth
>>>>>> newid rwan. Dim ond codi pwynt. Tybed a oes gwell sylfaen i adeiladwaith y
>>>>>> gair Cymraeg 'ysgrifbin' nag sydd i'r gair 'beiro'. Ac oherwydd hynny, mae
>>>>>> ganddo hawl gynhenid i eistedd yn gyfforddus ymysg ei gydeiriau i greu
>>>>>> mynegiant yn Gymraeg.
>>>>>>
>>>>>> 2014-11-19 18:38 GMT+00:00 Muiris Mag Ualghairg
>>>>>> <[log in to unmask]>:
>>>>>>>
>>>>>>> Beiro nid byro rwyf wedi'i glywed eriod.
>>>>>>> ________________________________
>>>>>>> From: Eluned Mai
>>>>>>> Sent: 19/11/2014 18:07
>>>>>>>
>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>> Subject: Re: pen
>>>>>>>
>>>>>>> Sut mae 'Biro' yn cael ei ynganu? Efallai mai 'byro' y dylai pobl
>>>>>>> ysgrifennu wrth ei ddefnyddio yn Gymraeg.
>>>>>>>
>>>>>>> 2014-11-19 17:17 GMT+00:00 Gareth Jones <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>
>>>>>>>> Nid gair Saesneg ydy biro mewn gwirionedd, ond gair Hwngareg (Biro
>>>>>>>> oedd enw cyfenw'r dyfeisydd).
>>>>>>>> Sent from my BlackBerry® wireless device
>>>>>>>> ________________________________
>>>>>>>> From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
>>>>>>>> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>>>> vocabulary <[log in to unmask]>
>>>>>>>> Date: Wed, 19 Nov 2014 17:45:26 +0100
>>>>>>>> To: <[log in to unmask]>
>>>>>>>> ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>>>> vocabulary <[log in to unmask]>
>>>>>>>> Subject: Re: pen
>>>>>>>>
>>>>>>>> Cytuno! Dwi heb eto gael canlyniad y bleidlais fely mi ddeuda i wrth
>>>>>>>> fy nghwsmer 'in bitwin' am ddefnyddio sgrifbin.
>>>>>>>>
>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>
>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>
>>>>>>>> 2014-11-19 15:33 GMT+01:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>
>>>>>>>>> Dwi'n siŵr mai cael ein gorfodi i gael ein haddysg trwy gyfrwng y
>>>>>>>>> Saesneg ers talwm sydd i gyfrif am yr holl bens a'r beiros 'ma. Ac wedyn
>>>>>>>>> roedd y rhai ddaeth yn athrawon ysgolion Cymraeg oedd wedi cael addysg trwy
>>>>>>>>> gyfrwng y Saesneg yn dal i ddefnyddio pens a beiros. Fel arall, dwi'n rhyw
>>>>>>>>> feddwl y basan ni i gyd yn defnyddio 'sgrifbinnau'. Ac mae o'n air bach
>>>>>>>>> digon hawdd ei ddeall a hawdd ei ddweud. Tasan nhw'n ailddechrau defnyddio
>>>>>>>>> 'sgrifbin' yn yr ysgol gynradd, fasa 'na ddim problem - mae plant yn
>>>>>>>>> defnyddio'r hyn maen nhw'n glywed.
>>>>>>>>>
>>>>>>>>>
>>>>>>>>>
>>>>>>>>> 2014-11-19 12:58 GMT+00:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Dwi'n gwbod mai beiros ydyn nhw - ond rwan eu bod nhw di
>>>>>>>>>> penderfynnu pleidleisio y nhw pia dewis.
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> 2014-11-19 12:46 GMT+01:00 Sian Roberts
>>>>>>>>>> <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Mae hon yn broblem.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Mae beiro'n tueddu i feddwl un o'r pethau 'ma lle mae inc yn llifo
>>>>>>>>>>> dros bêl fach ar y pen ac mae pob math o wahanol ddyfeisiau sgrifennu i'w
>>>>>>>>>>> cael erbyn hyn.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Ond mae "(y)sgrifbin" yn swnio dipyn fel cerbydres a diddosben -
>>>>>>>>>>> yn enwedig os ydyn ni'n sôn am bethau fel keyrings a phadiau ysgrifennu bach
>>>>>>>>>>> a sticeri ffenestri.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Holi fyswn i, gan obeithio mai beiros ydyn nhw!
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Siân
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> On 2014 Tach 19, at 7:10 AM, anna gruffydd wrote:
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Diolch am y stori ddifyr! Dyna beth gwirion, ddaru mi ddim meddwl
>>>>>>>>>>> am dynnu'r 'y' a'i wneud yn 'sgrifbin' sy'n llawer llai llenyddol (er y
>>>>>>>>>>> byddaf bob amser yn sgwennu 'sgrifennu', byth 'ysgrifennu'. Sfrifbin yn taro
>>>>>>>>>>> deuddeg. Diolch.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> 2014-11-18 22:09 GMT+01:00 Eurwyn Pierce Jones
>>>>>>>>>>> <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Sgrifbin. A plîs peidied neb ag awgrymu mai 'pen' ddylai'r gair
>>>>>>>>>>>> fod yn y Gymraeg hefyd.
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Yn fachgen un ar ddeg oed ar fy niwrnod cyntaf yn Ysgol Ramadeg
>>>>>>>>>>>> Bechgyn y Bala (yr ysgol 'fawr' bondigrybwyll), dyna lle roeddwn i ymhlith
>>>>>>>>>>>> deg ar hugain o fechgyn diniwed eraill, yn ufudd gopïo oddi ar y bwrdd sialc
>>>>>>>>>>>> du ein gwers Hanes gyntaf un erioed yno, gan drosglwyddo’r cynnwys
>>>>>>>>>>>> cyfareddol oddi ar y 'bwrdd du' yn ddestlus i dudalen flaen lân ein llyfrau
>>>>>>>>>>>> gwersi ffrés. Roeddem ni i gyd fel petaem ni'n cael hwyl eithriadol arni
>>>>>>>>>>>> hi, mewn awyrgylch ddisgybledig a diogel o dawel - pob un â'i ysgrifbin
>>>>>>>>>>>> newydd sbon danlli (yr anrheg ddisgwyliedig am basio'r lefn plýs) yn ei law,
>>>>>>>>>>>> yn benodol ar gyfer cyflawni'r union orchwyl dan sylw. Ymhen y rhawg,
>>>>>>>>>>>> torrwyd ar y distawrwydd myfyriol gyda'r bonheddwr o athro yn galw allan
>>>>>>>>>>>> gydag awdurdod cwrtais, a awgrymai y dylem ni i gyd yn ein desgiau pren derw
>>>>>>>>>>>> ufuddhau iddo ar ein hunion - allan o ryw barchedig ofn dychrynllyd tuag ato
>>>>>>>>>>>> fo yn ogystal â'r sefydliad ysgolheigaidd yr oeddem ni i gyd erbyn hyn wedi
>>>>>>>>>>>> ein trylwyr fabwysiadu i mewn iddo.
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> "Nawr te, fechgyn - eich sylw, bob un; dodwch eich pen ar y ddesg
>>>>>>>>>>>> am eiliad, os gwelwch chi'n dda" ebe'r deheuwr athrylithgar a safai'n
>>>>>>>>>>>> wynebu'r dosbarth o ddisgyblion eiddgar, pob un ohonom ni yn ein
>>>>>>>>>>>> hiwnifformau smartiaf erioed a gaed. Heb amau am chwinciad y gallai fod
>>>>>>>>>>>> unrhyw amwyster yn y byd i'r hyn a olygid wrth 'pen', i lawr yr aeth fy mhen
>>>>>>>>>>>> i ar ei union; hyd nes bod fy nhalcen a blaen fy nhrwyn a'm gên i gyd yn
>>>>>>>>>>>> gorffwys yn ddestlus o fflat ar ben y pentwr geiriau (eu hanner nhw'n gwbl
>>>>>>>>>>>> ddieithr i mi) roeddwn i newydd eu cofnodi yn fy llawysgrifen orau bosib ar
>>>>>>>>>>>> linellau glas y ddalen glaerwen flaenaf yn fy llyfr ysgrifennu. Yn ystod yr
>>>>>>>>>>>> ysbaid o lonyddwch disgwylgar a ddilynai, y cwbl a synhwyrwn i oedd troedio
>>>>>>>>>>>> pwyllog pâr o esgidiau oedolyn yn agosáu at fy nesg i, ac yn araf stopio
>>>>>>>>>>>> reit wrth fy ymyl i - doedd dim amheuaeth - fel pe'n gwbl fwriadol.
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Yna'n ddisymwth o sydyn, cwympodd cledr llaw aeddfed ar gorun fy
>>>>>>>>>>>> mhen i fel crafanc eryr, bachodd coflaid o fysedd cryf am wallt fy nghopa
>>>>>>>>>>>> a'm codi gyda nerth braich craen mewn chwarel, nes peri i mi gael fy nghodi
>>>>>>>>>>>> bron yn llythrennol oddi ar sedd fy nesg un-darn derw.
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> "Ac mi wela i bod gennym ni gomedïwr yn y dosbarth derbyn eleni,
>>>>>>>>>>>> oes e?", bloeddiodd yr athro'n wyllt gacwn i mewn i'm llygaid ofnus, cyn
>>>>>>>>>>>> gollwng ei afael arnaf a gadael i mi fownsio’n ôl i sedd dderw-galed fy
>>>>>>>>>>>> nesg. "Neu a oes angen i mi ddysgu rhywrai ohonoch chi bethau mor elfennol
>>>>>>>>>>>> â bod angen DAU ben arnoch chi yn yr Ysgol Ramadeg", taranodd ymlaen: "Un
>>>>>>>>>>>> pen i feddwl ag e'," meddai, gan guro fy mhen i â'i ddwrn yngháu. A chan
>>>>>>>>>>>> gydio yn fy ysgrifbin i â'i fysedd chwe modfedd o hyd, a'i hysgwyd yn
>>>>>>>>>>>> arddangosol (reit o flaen fy wyneb pinc, melyn a choch erbyn hyn), fel pe i
>>>>>>>>>>>> gyfnerthu ei bwynt, ychwanegodd: "... a phen arall i ysgrifennu'r meddyliau
>>>>>>>>>>>> hynny i lawr yn eich llyfrau gwaith!"
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Wn i ddim a oedd y deheuwr o athro hwnnw yn y fan a'r lle yn rhyw
>>>>>>>>>>>> lled-chwerthin wrtho ei hun wrth ymdrîn yn y fath fodd â gogleddwyr o blant
>>>>>>>>>>>> mor ddi-glem â nyni ym mherfeddion gogledd Cymru; ond chefais i ddim awgrym
>>>>>>>>>>>> o gwbl mai cellwair direidus a ysgogodd y wers y teimlodd ef y rheidrwydd
>>>>>>>>>>>> i'w chyflwyno i mi y prynhawn trawmatig hwnnw. A fentrais i erioed wedi
>>>>>>>>>>>> hynny ychwaith, i'w holi ef ymhellach ar y pwynt. Mae yna rai gwersi y
>>>>>>>>>>>> mae'n rhaid eu dysgu'n ostyngedig, bid siwr; cyn bwrw ymlaen wedi hynny â'r
>>>>>>>>>>>> gwaith gerbron - gydag agwedd ryw ychydig bach fwy goleuedig ar y mater.
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Serch hynny, er gwaethaf y profiad cynnar hwnnw ymhlith y
>>>>>>>>>>>> dysgedigion cydnabyddedig sydd ohoni, 'ysgrifbin' fydd fy ngair Cymraeg
>>>>>>>>>>>> dewisol i am 'pen'.
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Eurwyn.
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>>>>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna
>>>>>>>>>>>> gruffydd
>>>>>>>>>>>> Sent: 18 November 2014 18:12
>>>>>>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>>>>>>> Subject: Re: pen
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> ti'n iawn, beiro ydi o - felly dyna fasa galla ia?
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> 2014-11-18 19:07 GMT+01:00 Dafydd Timothy
>>>>>>>>>>>> <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> beiro?
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> On 18/11/2014 17:49, anna gruffydd wrote:
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> H.y. peth i sgwennu -
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Cyd-destun: nwyddau mae Cerddorfa'n eu gwerthu -
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> mae pen/pin sgrifennu yn swnio braidd yn hirwyntog i mi; mae
>>>>>>>>>>>> ysgrifbin yn llenyddol; mae pin dur ella'n rhy ogleddol (er mod i'n lecio
>>>>>>>>>>>> hwnna). Be mae plant yn arfer a'i glwad yn yr ysgol? Diolch
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> On 18/11/2014 15:33, Gwasg Helygain | Print | Design wrote:
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Diolch Dafydd
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Elli di checio tudalennau 1- 5 plis (dwi’n gadael tud 6 yn
>>>>>>>>>>>> Saesneg gan mai dyma;r iaith ar Facebook)
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Guto Lloyd-Davies
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Director
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Error! Filename not specified.
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Gwasg Helygain Ltd | Rear of 24 Elwy Street | Rhyl |
>>>>>>>>>>>> Denbighshire | LL18 1BP
>>>>>>>>>>>> 01745 331411 | [log in to unmask] | www.gwasg.com
>>>>>>>>>>>> LinkedIn | Facebook | Twitter
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>> Registered In England & Wales No 3281399 | Registered Office:
>>>>>>>>>>>> as above | Vat Reg No 289 3358 10
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>>> [The entire original message is not included.]
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - www.avg.com
>>> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4213/8599 - Release Date: 11/20/14
>>
>>
|