Wrth sôn am "trays" - beth yw "oven tray"? "Padell ffwrn"?
"Scotch tape" yw tâp gludiog yn ardal Gorseinon rwy'n credu :)
2014-11-21 10:52 GMT+00:00 David Bullock <[log in to unmask]>:
> Pan es i i weithio yn y Swyddfa Gymreig ers lawer dydd, 'calch' oedd enw
> Berwyn ar Tippex, ac 'incil glud' oedd Sellotape.
>
> Rwy'n credu mai bathiadau gan Moc Rogers oedd y rhain: Mary fyddai'n gallu
> cadarnhau mae'n debyg.
>
> (Padell mewn a mâs oedd yr in tray a'r out tray.)
>
>
>
> 2014-11-21 10:09 GMT+00:00 Geraint Lovgreen
> <[log in to unmask]>:
>>
>> Dilëwr glywais i, neu rwbiwr – gan y plant o bosib.
>>
>> Rwbiwr fyswn i’n ddeud – mae rybar yn cyfleu rhywbeth eitha gwahanol i fi!
>>
>> Geraint
>>
>> From: Sian Roberts
>> Sent: Thursday, November 20, 2014 7:50 PM
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: pen
>>
>> Ie! Jest meddwl eu bod nhw'n mynd braidd dros ben llestri yno!
>>
>> Ond wedyn mae rhywun wedi dod i ddweud cyfrifiadur a cyfrifiannell yn
>> hollol naturiol.
>> Mae'n anodd gwybod lle mae tynnu'r llinell.
>>
>> Siân
>>
>>
>>
>> On 2014 Tach 20, at 7:39 PM, anna gruffydd wrote:
>>
>> dileuydd? on i'n meddwl mai peth i sgwennu oedd sgrifbin - siawns nad
>> rybar ydi dileuydd???!!
>>
>> Anna
>>
>> Ye who opt for cut'n'paste
>> Tread with care and not in haste!
>>
>> 2014-11-20 20:20 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>>>
>>> Ie, wnes i holi ar Facebook neithiwr i weld a gawn ni wybod beth y mae
>>> ysgolion yn ei ddefnyddio.
>>> Yr unig beth a ddysgais oedd bod plant rhai ysgolion Cymraeg yn y de
>>> slawer dydd yn dweud "ysgrifbin" ond eu bod hefyd yn dweud "dileuydd"!!
>>>
>>> Siân
>>>
>>> On 2014 Tach 20, at 6:11 PM, Eluned Mai wrote:
>>>
>>> Ia, dwi'n gwybod beth rwyt ti'n feddwl ond mae plant ysgolion Cymraeg yn
>>> defnyddio termau na fasai eu rhieni byth yn dychmygu eu defnyddio. Tasai'r
>>> ysgolion yn defnyddio sgrifbin, dyna fasai'r plant yn ei ddefnyddio. Does
>>> dim rhaid ei gladdu am ei fod wedi mynd allan o ffasiwn.
>>> A does dim ffurf luosog i 'beiro' heb ychwanegu'r 's' Saesneg.
>>>
>>> Oes rhaid i sgrifbin fod yn hen deip steilus efo inc?
>>>
>>> 2014-11-20 15:42 GMT+00:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Ond, wrth gyfieithu am bethau bob-dydd, mae rhyw fath o ddyletswydd
>>>> arnon ni ddefnyddio iaith bob-dydd.
>>>> Alla i ddim dychmygu defnyddio'r gair "(y)sgrifbin" wrth siarad â neb.
>>>> Mae beiro'n cael ei ynganu yn y ffordd Gymraeg a'i dreiglo.
>>>>
>>>> Siân
>>>>
>>>>
>>>>
>>>> On 2014 Tach 20, at 12:51 PM, Eluned Mai wrote:
>>>>
>>>> Ia, o leiaf rydyn ni wedi gwneud hynny. Ond tybed ydy o'n ddigon da?
>>>> Yn enwedig gan fod gennym ni air pwrpasol yn barod, y mae'r rhan fwyaf o
>>>> bobl, am wn i, yn gwybod beth yw ei ystyr, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n ei
>>>> ddefnyddio. Mwya'n byd o eiriau benthyg rydyn ni'n eu mabwysiadu, lleia'n
>>>> byd o gadarnleoedd fydd gennym ni i adeiladu arnyn nhw a bydd yr hen iaith
>>>> yn dlotach ac yn wannach o'r herwydd. Dwi'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud
>>>> hynny i ryw raddau efo pethau cwbl newydd - ac roedd beiro'n gwbl newydd ar
>>>> un adeg, ond bellach mae'n cael ei ddefnyddio am ysgrifbinnau sydd ddim yn
>>>> feiros. Mae 'ysgrifbin' yn air bach hollgynhwysol.
>>>>
>>>> 2014-11-20 10:36 GMT+00:00 megan tomos <[log in to unmask]>:
>>>>>
>>>>> Mi ryden ni wedi Cymreigio'r ynganiad Saesneg o leiaf fel yr ydym wedi
>>>>> ei wneud efo marmalade a sellotape. Ydi hynny ddim digon da?
>>>>>
>>>>> Tydi ynganiad y Ffrancod o weekend ddim byd tebyg i weekend y Saeson er
>>>>> bod ein hwicend ni. Ond os yden ni'n ei dreiglo fel yna a oes angen inni
>>>>> boeni. Onid 'gobaith mawr y ganrif', chwedl Jarman, ydi "dy jips" a
>>>>> "nhiocled"?
>>>>>
>>>>> Megan
>>>>>
>>>>> ----Original message----
>>>>> From : [log in to unmask]
>>>>> Date : 20/11/2014 - 10:07 (UTC)
>>>>>
>>>>> To : [log in to unmask]
>>>>> Subject : Re: pen
>>>>>
>>>>> Ia, dwi'n gwybod. Meddwl oeddwn i tybed sut mae'r gair yn cael ei
>>>>> ynganu mewn Hwngareg ac mai dyna ddylai'r sillafiad Cymraeg fod wedi'i
>>>>> efelychu, nid yr ynganiad Seisnig. Mi driais i ddod o hyd i'r ynganiad ar y
>>>>> We ac mi glywais i rywbeth tebyg i 'byro'. Does gen i ddim syniad a yw
>>>>> hynny'n iawn ai peidio. A dwi'n gwybod na wnaiff y sillafiad Cymraeg fyth
>>>>> newid rwan. Dim ond codi pwynt. Tybed a oes gwell sylfaen i adeiladwaith y
>>>>> gair Cymraeg 'ysgrifbin' nag sydd i'r gair 'beiro'. Ac oherwydd hynny, mae
>>>>> ganddo hawl gynhenid i eistedd yn gyfforddus ymysg ei gydeiriau i greu
>>>>> mynegiant yn Gymraeg.
>>>>>
>>>>> 2014-11-19 18:38 GMT+00:00 Muiris Mag Ualghairg
>>>>> <[log in to unmask]>:
>>>>>>
>>>>>> Beiro nid byro rwyf wedi'i glywed eriod.
>>>>>> ________________________________
>>>>>> From: Eluned Mai
>>>>>> Sent: 19/11/2014 18:07
>>>>>>
>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>> Subject: Re: pen
>>>>>>
>>>>>> Sut mae 'Biro' yn cael ei ynganu? Efallai mai 'byro' y dylai pobl
>>>>>> ysgrifennu wrth ei ddefnyddio yn Gymraeg.
>>>>>>
>>>>>> 2014-11-19 17:17 GMT+00:00 Gareth Jones <[log in to unmask]>:
>>>>>>>
>>>>>>> Nid gair Saesneg ydy biro mewn gwirionedd, ond gair Hwngareg (Biro
>>>>>>> oedd enw cyfenw'r dyfeisydd).
>>>>>>> Sent from my BlackBerry® wireless device
>>>>>>> ________________________________
>>>>>>> From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
>>>>>>> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>>> vocabulary <[log in to unmask]>
>>>>>>> Date: Wed, 19 Nov 2014 17:45:26 +0100
>>>>>>> To: <[log in to unmask]>
>>>>>>> ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>>> vocabulary <[log in to unmask]>
>>>>>>> Subject: Re: pen
>>>>>>>
>>>>>>> Cytuno! Dwi heb eto gael canlyniad y bleidlais fely mi ddeuda i wrth
>>>>>>> fy nghwsmer 'in bitwin' am ddefnyddio sgrifbin.
>>>>>>>
>>>>>>> Anna
>>>>>>>
>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>
>>>>>>> 2014-11-19 15:33 GMT+01:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>
>>>>>>>> Dwi'n siŵr mai cael ein gorfodi i gael ein haddysg trwy gyfrwng y
>>>>>>>> Saesneg ers talwm sydd i gyfrif am yr holl bens a'r beiros 'ma. Ac wedyn
>>>>>>>> roedd y rhai ddaeth yn athrawon ysgolion Cymraeg oedd wedi cael addysg trwy
>>>>>>>> gyfrwng y Saesneg yn dal i ddefnyddio pens a beiros. Fel arall, dwi'n rhyw
>>>>>>>> feddwl y basan ni i gyd yn defnyddio 'sgrifbinnau'. Ac mae o'n air bach
>>>>>>>> digon hawdd ei ddeall a hawdd ei ddweud. Tasan nhw'n ailddechrau defnyddio
>>>>>>>> 'sgrifbin' yn yr ysgol gynradd, fasa 'na ddim problem - mae plant yn
>>>>>>>> defnyddio'r hyn maen nhw'n glywed.
>>>>>>>>
>>>>>>>>
>>>>>>>>
>>>>>>>> 2014-11-19 12:58 GMT+00:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>
>>>>>>>>> Dwi'n gwbod mai beiros ydyn nhw - ond rwan eu bod nhw di
>>>>>>>>> penderfynnu pleidleisio y nhw pia dewis.
>>>>>>>>>
>>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>>
>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>>
>>>>>>>>> 2014-11-19 12:46 GMT+01:00 Sian Roberts
>>>>>>>>> <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Mae hon yn broblem.
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Mae beiro'n tueddu i feddwl un o'r pethau 'ma lle mae inc yn llifo
>>>>>>>>>> dros bêl fach ar y pen ac mae pob math o wahanol ddyfeisiau sgrifennu i'w
>>>>>>>>>> cael erbyn hyn.
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Ond mae "(y)sgrifbin" yn swnio dipyn fel cerbydres a diddosben -
>>>>>>>>>> yn enwedig os ydyn ni'n sôn am bethau fel keyrings a phadiau ysgrifennu bach
>>>>>>>>>> a sticeri ffenestri.
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Holi fyswn i, gan obeithio mai beiros ydyn nhw!
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Siân
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> On 2014 Tach 19, at 7:10 AM, anna gruffydd wrote:
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Diolch am y stori ddifyr! Dyna beth gwirion, ddaru mi ddim meddwl
>>>>>>>>>> am dynnu'r 'y' a'i wneud yn 'sgrifbin' sy'n llawer llai llenyddol (er y
>>>>>>>>>> byddaf bob amser yn sgwennu 'sgrifennu', byth 'ysgrifennu'. Sfrifbin yn taro
>>>>>>>>>> deuddeg. Diolch.
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>> 2014-11-18 22:09 GMT+01:00 Eurwyn Pierce Jones
>>>>>>>>>> <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Sgrifbin. A plîs peidied neb ag awgrymu mai 'pen' ddylai'r gair
>>>>>>>>>>> fod yn y Gymraeg hefyd.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Yn fachgen un ar ddeg oed ar fy niwrnod cyntaf yn Ysgol Ramadeg
>>>>>>>>>>> Bechgyn y Bala (yr ysgol 'fawr' bondigrybwyll), dyna lle roeddwn i ymhlith
>>>>>>>>>>> deg ar hugain o fechgyn diniwed eraill, yn ufudd gopïo oddi ar y bwrdd sialc
>>>>>>>>>>> du ein gwers Hanes gyntaf un erioed yno, gan drosglwyddo’r cynnwys
>>>>>>>>>>> cyfareddol oddi ar y 'bwrdd du' yn ddestlus i dudalen flaen lân ein llyfrau
>>>>>>>>>>> gwersi ffrés. Roeddem ni i gyd fel petaem ni'n cael hwyl eithriadol arni
>>>>>>>>>>> hi, mewn awyrgylch ddisgybledig a diogel o dawel - pob un â'i ysgrifbin
>>>>>>>>>>> newydd sbon danlli (yr anrheg ddisgwyliedig am basio'r lefn plýs) yn ei law,
>>>>>>>>>>> yn benodol ar gyfer cyflawni'r union orchwyl dan sylw. Ymhen y rhawg,
>>>>>>>>>>> torrwyd ar y distawrwydd myfyriol gyda'r bonheddwr o athro yn galw allan
>>>>>>>>>>> gydag awdurdod cwrtais, a awgrymai y dylem ni i gyd yn ein desgiau pren derw
>>>>>>>>>>> ufuddhau iddo ar ein hunion - allan o ryw barchedig ofn dychrynllyd tuag ato
>>>>>>>>>>> fo yn ogystal â'r sefydliad ysgolheigaidd yr oeddem ni i gyd erbyn hyn wedi
>>>>>>>>>>> ein trylwyr fabwysiadu i mewn iddo.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> "Nawr te, fechgyn - eich sylw, bob un; dodwch eich pen ar y ddesg
>>>>>>>>>>> am eiliad, os gwelwch chi'n dda" ebe'r deheuwr athrylithgar a safai'n
>>>>>>>>>>> wynebu'r dosbarth o ddisgyblion eiddgar, pob un ohonom ni yn ein
>>>>>>>>>>> hiwnifformau smartiaf erioed a gaed. Heb amau am chwinciad y gallai fod
>>>>>>>>>>> unrhyw amwyster yn y byd i'r hyn a olygid wrth 'pen', i lawr yr aeth fy mhen
>>>>>>>>>>> i ar ei union; hyd nes bod fy nhalcen a blaen fy nhrwyn a'm gên i gyd yn
>>>>>>>>>>> gorffwys yn ddestlus o fflat ar ben y pentwr geiriau (eu hanner nhw'n gwbl
>>>>>>>>>>> ddieithr i mi) roeddwn i newydd eu cofnodi yn fy llawysgrifen orau bosib ar
>>>>>>>>>>> linellau glas y ddalen glaerwen flaenaf yn fy llyfr ysgrifennu. Yn ystod yr
>>>>>>>>>>> ysbaid o lonyddwch disgwylgar a ddilynai, y cwbl a synhwyrwn i oedd troedio
>>>>>>>>>>> pwyllog pâr o esgidiau oedolyn yn agosáu at fy nesg i, ac yn araf stopio
>>>>>>>>>>> reit wrth fy ymyl i - doedd dim amheuaeth - fel pe'n gwbl fwriadol.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Yna'n ddisymwth o sydyn, cwympodd cledr llaw aeddfed ar gorun fy
>>>>>>>>>>> mhen i fel crafanc eryr, bachodd coflaid o fysedd cryf am wallt fy nghopa
>>>>>>>>>>> a'm codi gyda nerth braich craen mewn chwarel, nes peri i mi gael fy nghodi
>>>>>>>>>>> bron yn llythrennol oddi ar sedd fy nesg un-darn derw.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> "Ac mi wela i bod gennym ni gomedïwr yn y dosbarth derbyn eleni,
>>>>>>>>>>> oes e?", bloeddiodd yr athro'n wyllt gacwn i mewn i'm llygaid ofnus, cyn
>>>>>>>>>>> gollwng ei afael arnaf a gadael i mi fownsio’n ôl i sedd dderw-galed fy
>>>>>>>>>>> nesg. "Neu a oes angen i mi ddysgu rhywrai ohonoch chi bethau mor elfennol
>>>>>>>>>>> â bod angen DAU ben arnoch chi yn yr Ysgol Ramadeg", taranodd ymlaen: "Un
>>>>>>>>>>> pen i feddwl ag e'," meddai, gan guro fy mhen i â'i ddwrn yngháu. A chan
>>>>>>>>>>> gydio yn fy ysgrifbin i â'i fysedd chwe modfedd o hyd, a'i hysgwyd yn
>>>>>>>>>>> arddangosol (reit o flaen fy wyneb pinc, melyn a choch erbyn hyn), fel pe i
>>>>>>>>>>> gyfnerthu ei bwynt, ychwanegodd: "... a phen arall i ysgrifennu'r meddyliau
>>>>>>>>>>> hynny i lawr yn eich llyfrau gwaith!"
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Wn i ddim a oedd y deheuwr o athro hwnnw yn y fan a'r lle yn rhyw
>>>>>>>>>>> lled-chwerthin wrtho ei hun wrth ymdrîn yn y fath fodd â gogleddwyr o blant
>>>>>>>>>>> mor ddi-glem â nyni ym mherfeddion gogledd Cymru; ond chefais i ddim awgrym
>>>>>>>>>>> o gwbl mai cellwair direidus a ysgogodd y wers y teimlodd ef y rheidrwydd
>>>>>>>>>>> i'w chyflwyno i mi y prynhawn trawmatig hwnnw. A fentrais i erioed wedi
>>>>>>>>>>> hynny ychwaith, i'w holi ef ymhellach ar y pwynt. Mae yna rai gwersi y
>>>>>>>>>>> mae'n rhaid eu dysgu'n ostyngedig, bid siwr; cyn bwrw ymlaen wedi hynny â'r
>>>>>>>>>>> gwaith gerbron - gydag agwedd ryw ychydig bach fwy goleuedig ar y mater.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Serch hynny, er gwaethaf y profiad cynnar hwnnw ymhlith y
>>>>>>>>>>> dysgedigion cydnabyddedig sydd ohoni, 'ysgrifbin' fydd fy ngair Cymraeg
>>>>>>>>>>> dewisol i am 'pen'.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Eurwyn.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>>>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna
>>>>>>>>>>> gruffydd
>>>>>>>>>>> Sent: 18 November 2014 18:12
>>>>>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>>>>>> Subject: Re: pen
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> ti'n iawn, beiro ydi o - felly dyna fasa galla ia?
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> 2014-11-18 19:07 GMT+01:00 Dafydd Timothy
>>>>>>>>>>> <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> beiro?
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> On 18/11/2014 17:49, anna gruffydd wrote:
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> H.y. peth i sgwennu -
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Cyd-destun: nwyddau mae Cerddorfa'n eu gwerthu -
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> mae pen/pin sgrifennu yn swnio braidd yn hirwyntog i mi; mae
>>>>>>>>>>> ysgrifbin yn llenyddol; mae pin dur ella'n rhy ogleddol (er mod i'n lecio
>>>>>>>>>>> hwnna). Be mae plant yn arfer a'i glwad yn yr ysgol? Diolch
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Anna
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> On 18/11/2014 15:33, Gwasg Helygain | Print | Design wrote:
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Diolch Dafydd
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Elli di checio tudalennau 1- 5 plis (dwi’n gadael tud 6 yn
>>>>>>>>>>> Saesneg gan mai dyma;r iaith ar Facebook)
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Guto Lloyd-Davies
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Director
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Error! Filename not specified.
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Gwasg Helygain Ltd | Rear of 24 Elwy Street | Rhyl |
>>>>>>>>>>> Denbighshire | LL18 1BP
>>>>>>>>>>> 01745 331411 | [log in to unmask] | www.gwasg.com
>>>>>>>>>>> LinkedIn | Facebook | Twitter
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>> Registered In England & Wales No 3281399 | Registered Office:
>>>>>>>>>>> as above | Vat Reg No 289 3358 10
>>>>>>>>>>>
>>>>>>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> [The entire original message is not included.]
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>
>>
>>
>>
>>
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4213/8599 - Release Date: 11/20/14
>
>
|