Ie, a 'Gwener y Gwario' oedd hi ar newyddion Radio Cymru drwy'r dydd.
-----Original Message-----
From: Claire Richards
Sent: Friday, November 28, 2014 9:01 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyber Monday
Yr esboniad arall am Black Friday yw mai hwnnw yw'r diwrnod mae cyfrifon
busnesau manwerthu'n mynd allan o'r coch ac i mewn i'r du, oherwydd yr holl
wario.
Ac mae arna i ofn bod y siopau yng Nghymru'n sicrhau bod Dydd Gwener y
Gwario (licio hwnna) yn bodoli erbyn hyn. Hanner reiat yn Gabalfa neithiwr,
yn ôl y sôn.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 27 November 2014 17:04
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyber Monday
O'n i'n mynd i ddeud mai pethau Americanaidd ydi'r rhein - Black Friday a
Cyber Monday - a fyswn i'n eu gadael yn yr iaith wreiddiol. Dydi'r cysyniad
ddim yn bodoli yng Nghymru. Mae rhai yn sôn hefyd bod y term 'Black Friday'
yn deillio o oes gwerthu caethweision.
-----Original Message-----
From: Dafydd Tomos
Sent: Thursday, November 27, 2014 4:27 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyber Monday
On Nov 27, 2014, Meinir Thomas wrote:
> Prynhawn da,
>
> Oes unrhyw un wedi cyfieithu'r uchod? 'Seiber Ddydd Llun' oedd ar fy
> meddwl i, ond heb weld unrhyw enghreifftiau. Wedi gweld un enghraifft
> o 'Llun y Seiber'.
Newydd gael trafodaeth yn y swyddfa am hyn. Rwtsh Americanaidd yw e (a mae
hyn yn dod gan Americanes) ar gyfer marchnata siopa arline yn y diwrnodau ar
ol Diolchgarwch. Black Friday yw hi fory.
Dwi ddim yn siwr os oes yna unrhyw gyfieithiad call i rywbeth sydd ddim yn
digwydd yng Nghymru (er fod rhai yn ceisio'u gorau glas i efelychu'r iancs).
Fasen i'n ei alw yn Ddydd Llun Lloerig.
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4223/8639 - Release Date: 11/27/14
-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5577 / Virus Database: 4223/8640 - Release Date: 11/27/14
|