Teitl y ddogfen yw teitl y ddogfen, sef 'Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan' - sydd, os gwir y cof, yn cynnwys nifer o weithdrefnau i'w dilyn mewn amgylchiadau penodol. Fe allai fod yn werth nodi fod rhai pobl yn ailgyieithu'r teitl Saesneg, yn hytrach na dilyn beth sydd ar yr wynebddalen.
Ynglŷn a'r 'relationships', unwaith eto fe saif teitl y ddogfen dan sylw fel ag y mae. Er hyn os nad yw rhywun yn dyfynnu, doeth o beth fyddai cyfeirio at yr amrywiaeth o dermau sy'n cael eu harfer - yn yr un ddogfen, ar adegau!
Yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 29 August 2012 09:11
To: [log in to unmask]
Subject: anghysondeb
All Wales Child Protection Procedures 2008
Gan amlaf, cyfeirir at y rhain fel Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan - mae Google yn dod o hyd i 2140 o enghreifftiau o'r union derm.
Ond y teitl ar y ddogfen ei hunan yw Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
Beth sydd orau i'w wneud wrth gyfeirio at y ddogfen? A ddylid cydnabod bod y ddau enw'n cael eu defnyddio?
Hefyd, ar fater tebyg, mae TermCymru'n rhoi "addysg rhyw a chydberthynas" (Statws 1) am "sex and relationships education" ond mae llawer o ddogfennau yn defnyddio "addysg rhyw a pherthnasoedd" e.e. Canllawiau diweddaraf Llywodraeth y Cynulliad - "Addysg Rhyw a Pherthnasoedd mewn Ysgolion" (2010) http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/100908sexedcy.pdf
Rwy'n meddwl y cadwaf i at "perthnasoedd" yn y cyfieithiad am fod yr holl ddyfyniadau etc yn defnyddio "perthnasoedd" yn hytrach na "cydberthynas".
Diolch
Siân
|