All Wales Child Protection Procedures 2008
Gan amlaf, cyfeirir at y rhain fel Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan - mae Google yn dod o hyd i 2140 o enghreifftiau o'r union derm.
Ond y teitl ar y ddogfen ei hunan yw Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
Beth sydd orau i'w wneud wrth gyfeirio at y ddogfen? A ddylid cydnabod bod y ddau enw'n cael eu defnyddio?
Hefyd, ar fater tebyg, mae TermCymru'n rhoi "addysg rhyw a chydberthynas" (Statws 1) am "sex and relationships education" ond mae llawer o ddogfennau yn defnyddio "addysg rhyw a pherthnasoedd" e.e. Canllawiau diweddaraf Llywodraeth y Cynulliad - "Addysg Rhyw a Pherthnasoedd mewn Ysgolion" (2010) http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/100908sexedcy.pdf
Rwy'n meddwl y cadwaf i at "perthnasoedd" yn y cyfieithiad am fod yr holl ddyfyniadau etc yn defnyddio "perthnasoedd" yn hytrach na "cydberthynas".
Diolch
Siân
|