Diddorol!
Efallai bod syniad yma am weithdy gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru -
"A oes ar gyfieithwyr 'gyfrifoldeb diwyro i genhadu, hybu a
chynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg'? Os felly, sut?"
Os ydi'r Gymdeithas ei hunan wedi penderfynu peidio â chael enw
Cymraeg - ac mae'r peth yn amlwg wedi'i drafod yn ôl a ddywedwch chi
- onid ei braint hi yw hynny?
Pe bawn i'n gweithio i'r Grŵp ei hunan, mae'n siwr y byddwn yn gofyn
"Oes gennych chi enw Cymraeg? Os nad oes, a fyddech chi'n hoffi i mi
gynnig un?" ond dim ond cyfeiriad at y Grŵp mewn dogfen gan gorff
arall yw hwn.
Cofion
Siân
On 10 Chwef 2012, at 12:13, Eurwyn Pierce Jones wrote:
> Mae yna arlunwyr sy'n siarad Cymraeg yn byw yng nghyffiniau Rhaeadr
> Gwy,
> oedd yn arfer bod yn aelodau o'r grwp hwn; ac un rheswm pam iddynt
> beidio ag
> ail-ymaelodi, fel rydw i'n deall, oedd am nad oedd enw Cymraeg
> iddo. Mae'r
> grwp hwn yn arfer defnyddio gwasanaeth cyfieithydd ar-y-pryd o bryd
> i'w
> gilydd (h.y. pan gynigir y gwasanaeth iddyn nhw am y nesaf peth i ddim
> tâl!), ar ofyn rhai arlunwyr sy'n rhan o'r grwp ei hun ac sy'n
> awyddus i
> ddangos eu cefnogaeth i'r iaith Gymraeg.
>
> Mewn amgylchiadau felly, mi fyddwn i'n meddwl mai da o beth fyddai
> annog y
> grwp i arddel enw'r grwp yn y naill iaith yn ogystal â'r llall.
> Wedi'r
> cyfan, yng Nhymru y mae'r dref hyfryd hon wedi ei lleoli, ac ar
> ffin y dref
> mae yno raeadr godidog ar yr afon Gwy - oddi wrth yr hwn y mae'r
> dref ei hun
> wedi cael ei henwi; ac yn wir, y mae'r sillafiad Seisnigaidd ar y
> lle yn
> warth i'r iaith Gymraeg. At hynny, gan nad sefydliad ar gyfer y di-
> Gymraeg
> yn unig ydyw'r grwp celf dan sylw, pam gwarafun iddo gael enw
> Cymraeg cywir.
>
> Dyma, yn fy marn i, pryd y mae'r cyfieithydd yn fwy na dim ond gwas
> cyflogedig sy'n gwneud darn o waith just i ennill ei fara/bara
> 'menyn; yn
> hytrach, mae arno fo / arni hi gyfrifoldeb diwyro i genhadu, hybu a
> chynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg (yn y cywair mwyaf graenus a
> defnyddiol) ym mhob cyd-destun dan haul, pryd bynnag y byddo hynny
> o fewn ei
> (g)allu.
>
> Eurwyn.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 10 February 2012 09:20
> To: [log in to unmask]
> Subject: enwau cymdeithasau
>
> Mae'n siwr bod hyn wedi'i drafod o'r blaen ond beth sydd orau i'w
> wneud ag
> enwau cymdeithasau yng Nghymru sydd heb enw Cymraeg swyddogol?
>
> "Rhayader Art Group" sydd dan sylw. Dwi'n cael fy nhemtio i'w
> adael yn
> Saesneg am mai dyna yw ei enw.
>
> Siân
|