Mae yna arlunwyr sy'n siarad Cymraeg yn byw yng nghyffiniau Rhaeadr Gwy,
oedd yn arfer bod yn aelodau o'r grwp hwn; ac un rheswm pam iddynt beidio ag
ail-ymaelodi, fel rydw i'n deall, oedd am nad oedd enw Cymraeg iddo. Mae'r
grwp hwn yn arfer defnyddio gwasanaeth cyfieithydd ar-y-pryd o bryd i'w
gilydd (h.y. pan gynigir y gwasanaeth iddyn nhw am y nesaf peth i ddim
tāl!), ar ofyn rhai arlunwyr sy'n rhan o'r grwp ei hun ac sy'n awyddus i
ddangos eu cefnogaeth i'r iaith Gymraeg.
Mewn amgylchiadau felly, mi fyddwn i'n meddwl mai da o beth fyddai annog y
grwp i arddel enw'r grwp yn y naill iaith yn ogystal ā'r llall. Wedi'r
cyfan, yng Nhymru y mae'r dref hyfryd hon wedi ei lleoli, ac ar ffin y dref
mae yno raeadr godidog ar yr afon Gwy - oddi wrth yr hwn y mae'r dref ei hun
wedi cael ei henwi; ac yn wir, y mae'r sillafiad Seisnigaidd ar y lle yn
warth i'r iaith Gymraeg. At hynny, gan nad sefydliad ar gyfer y di-Gymraeg
yn unig ydyw'r grwp celf dan sylw, pam gwarafun iddo gael enw Cymraeg cywir.
Dyma, yn fy marn i, pryd y mae'r cyfieithydd yn fwy na dim ond gwas
cyflogedig sy'n gwneud darn o waith just i ennill ei fara/bara 'menyn; yn
hytrach, mae arno fo / arni hi gyfrifoldeb diwyro i genhadu, hybu a
chynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg (yn y cywair mwyaf graenus a
defnyddiol) ym mhob cyd-destun dan haul, pryd bynnag y byddo hynny o fewn ei
(g)allu.
Eurwyn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 10 February 2012 09:20
To: [log in to unmask]
Subject: enwau cymdeithasau
Mae'n siwr bod hyn wedi'i drafod o'r blaen ond beth sydd orau i'w wneud ag
enwau cymdeithasau yng Nghymru sydd heb enw Cymraeg swyddogol?
"Rhayader Art Group" sydd dan sylw. Dwi'n cael fy nhemtio i'w adael yn
Saesneg am mai dyna yw ei enw.
Siān
|