Dim syniad am yr enwau, ond mi allech chi holi rhywun yn yr Archifdy yn
Rhuthun (01824 708250) neu'r Llyfrgell yn Ninbych (01745 816313). Falle
bydden nhw'n gallu rhoi rhif ffôn Bobi Owen i chi. Fo ydi'r hanesydd lleol
ac mae ganddo fo wybodaeth dda iawn am y dre.
Rhian
-----Original Message-----
From: David Bullock
Sent: Wednesday, February 29, 2012 1:11 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Castell Dinbych
Oes yna rywun yn gyfarwydd ag adrannau Castell Dinbych?
Countess Tower - Tŵr yr Iarlles?
Green Chambers - Y Siambrau Gwyrdd?
Postern Gate - Y Cilborth?
Great Kitchen Tower - Tŵr y Gegin Fawr? Tŵr Mawr y Gegin?
Goblin Tower - Tŵr y Coblyn?
Mae'n rhaid bod yna daflen neu lyfr tywys swyddogol, ond does dim help ar
gael drwy gyfrwng Google ... hyd y gwela i ta beth.
Diolch!
|