Haia Sioned
O beth rwy’n ei ddeall uned newydd yn yr ysgol yw hon fydd yn darparu addysg amgen i ddisgyblion sydd ddim yn gallu mynd i wersi prif ffrwd / llawn amser. Rwy’n amau fod yr ysgol yn mynd i ddefnyddio’r teitl ‘Engage Base’ yn lle’r ‘Pupil Referral Unit’ - am ei fod yn swnio’n fwy crand efallai?! Pam maent yn dewis pethau sydd mor anodd eu cyfieithu?!
Ceri
Sent using BlackBerry® from Orange
-----Original Message-----
From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Wed, 13 Jul 2011 10:28:29
To: <[log in to unmask]>
Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: Re: Engage Base
Bore da Ceri
Sut uned ydi hi? Dysgu grwp penodol o blant, maes penodol yn y cwricwlwm? Fedra i ddim cael hyd i unrhyw gyfeiriad ar y we, a 'rioed wedi clywed y term o'r blaen (ond mae'n siwr y bydd angen i minnau ei gyfieithu ryw dro, gan fod pethau fel hyn yn tueddu i ehangu!)
Sioned
On 13 Jul 2011, at 10:21, Ceri Wyn Williams wrote:
> Bore da pawb
>
> Rwyf wedi bod yn pendroni uwchben hwn ers sbel a ddim yn gallu meddwl am derm addas. Mae ‘Engage Base’ yn cyfeirio at uned yn yr ysgol. Gofynnwyd i mi gyfieithu’r swydd deitlau canlynol:
>
> Engage Base Lead Teacher
>
> Engage Base Teaching Assistant
>
> Buaswn yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau.
>
> Diolch yn fawr.
>
> Ceri
>
> Sent using BlackBerry® from Orange
|