Oh dwi'n teimlo'n well ar ol coffi!
Rwyf newydd weld yr athrawes fydd yn gyfrifol am yr uned newydd - ei chynnig hi yw 'Ystafell Dim Hwyl'?! Ond dwi meddwl y buasai'n well defnyddio Uned Ymgysylltu!
Diolch yn fawr iawn Sioned.
Ceri :-)
Sent using BlackBerry® from Orange
-----Original Message-----
From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Wed, 13 Jul 2011 10:58:12
To: <[log in to unmask]>
Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: Re: Engage Base
A, reit. O'r nefoedd!
Fyddai 'uned ymgysylltu' yn addas? .... ond os ydyn nhw eisiau colli'r syniad PRU, falla ddim.
On 13 Jul 2011, at 10:47, Ceri Wyn Williams wrote:
> Haia Sioned
>
> O beth rwy’n ei ddeall uned newydd yn yr ysgol yw hon fydd yn darparu addysg amgen i ddisgyblion sydd ddim yn gallu mynd i wersi prif ffrwd / llawn amser. Rwy’n amau fod yr ysgol yn mynd i ddefnyddio’r teitl ‘Engage Base’ yn lle’r ‘Pupil Referral Unit’ - am ei fod yn swnio’n fwy crand efallai?! Pam maent yn dewis pethau sydd mor anodd eu cyfieithu?!
>
> Ceri
>
> Sent using BlackBerry® from Orange
>
> -----Original Message-----
> From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
> Date: Wed, 13 Jul 2011 10:28:29
> To: <[log in to unmask]>
> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
> Subject: Re: Engage Base
>
> Bore da Ceri
>
> Sut uned ydi hi? Dysgu grwp penodol o blant, maes penodol yn y cwricwlwm? Fedra i ddim cael hyd i unrhyw gyfeiriad ar y we, a 'rioed wedi clywed y term o'r blaen (ond mae'n siwr y bydd angen i minnau ei gyfieithu ryw dro, gan fod pethau fel hyn yn tueddu i ehangu!)
>
>
> Sioned
>
>
>
> On 13 Jul 2011, at 10:21, Ceri Wyn Williams wrote:
>
>> Bore da pawb
>>
>> Rwyf wedi bod yn pendroni uwchben hwn ers sbel a ddim yn gallu meddwl am derm addas. Mae ‘Engage Base’ yn cyfeirio at uned yn yr ysgol. Gofynnwyd i mi gyfieithu’r swydd deitlau canlynol:
>>
>> Engage Base Lead Teacher
>>
>> Engage Base Teaching Assistant
>>
>> Buaswn yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau.
>>
>> Diolch yn fawr.
>>
>> Ceri
>>
>> Sent using BlackBerry® from Orange
|