Haia Sioned O beth rwy’n ei ddeall uned newydd yn yr ysgol yw hon fydd yn darparu addysg amgen i ddisgyblion sydd ddim yn gallu mynd i wersi prif ffrwd / llawn amser. Rwy’n amau fod yr ysgol yn mynd i ddefnyddio’r teitl ‘Engage Base’ yn lle’r ‘Pupil Referral Unit’ - am ei fod yn swnio’n fwy crand efallai?! Pam maent yn dewis pethau sydd mor anodd eu cyfieithu?! Ceri Sent using BlackBerry® from Orange -----Original Message----- From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Date: Wed, 13 Jul 2011 10:28:29 To: <[log in to unmask]> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Subject: Re: Engage Base Bore da Ceri Sut uned ydi hi? Dysgu grwp penodol o blant, maes penodol yn y cwricwlwm? Fedra i ddim cael hyd i unrhyw gyfeiriad ar y we, a 'rioed wedi clywed y term o'r blaen (ond mae'n siwr y bydd angen i minnau ei gyfieithu ryw dro, gan fod pethau fel hyn yn tueddu i ehangu!) Sioned On 13 Jul 2011, at 10:21, Ceri Wyn Williams wrote: > Bore da pawb > > Rwyf wedi bod yn pendroni uwchben hwn ers sbel a ddim yn gallu meddwl am derm addas. Mae ‘Engage Base’ yn cyfeirio at uned yn yr ysgol. Gofynnwyd i mi gyfieithu’r swydd deitlau canlynol: > > Engage Base Lead Teacher > > Engage Base Teaching Assistant > > Buaswn yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau. > > Diolch yn fawr. > > Ceri > > Sent using BlackBerry® from Orange