Diolch am fynd i gymaint o drafferth Tim! Rydw i wedi penderfynu cadw
at Gynllunio Darbodus oherwydd nad yw'r term Saesneg yn arbennig o
gyfarwydd felly fydda i ddim ar fy ennill o gyfieithu'n llythrennol. A
tydi'r Saesneg ddim yn cyfleu'r cysyniad yn dda iawn o gwbl - a'r
Gymraeg yn waeth fyth. Ac mae'n adroddiad i leygwyr, nid pobl yn y byd
adeiladu. (Mae'r adroddiad cyfan yn llawn jargon ac oherwydd hynny,
erbyn i mi orffen roedd cyfanswm geiriau'r Gymraeg yn llai na'r Saesneg).
Saunders, Tim wrote:
> Wele ychydig enghreifftiau o wefannau'r Llywodraeth:
>
> costio oes cyfan a pheirianneg gwerth - whole life costing and value
> engineering
>
> costio oes gyfan a thechnegau peirianneg gwerth - whole life costing and
> value engineering techniques
>
> cynlluniau Bwrdd y Project i fonitro cyfanswm y costau cyfalaf, y costau
> oes gyfan a chanlyniadau astudiaethau peirianyddol o werth - the Project
> Board's plans to monitor the total capital costs, the whole life costs
> and the results of value engineering studies
>
> defnyddio technegau fel costio oes cyfan a pheirianneg gwerth i gadw
> costau i'w hisafswm - the use of techniques such as whole life costing
> and value engineering to minimise cost
>
> Yn iach,
>
>
> Tim
>
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd Translator
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County
> Borough Council
>
>
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia
> Prys
> Sent: 07 June 2011 10:53
> To: [log in to unmask]
> Subject: value engineering
>
> Efallai fod rhywun wedi dod ar draws y term hwn o'r blaen.
>
> Dyma ddiffiniad o'r we.
>
> Value engineering is a branch of industrial engineering in which the
> value of a system's outputs is optimized. This involves crafting the
> optimum mix of performance and costs. In most cases this means the
> identification and removal of unnecessary costs. By avoiding unnecessary
> expenditures, value can be created for the manufacturer and/or their
> customers.
>
> Cynlluniau adeilad yw'r cyd-destun dan sylw a'r bwriad yw addasu'r
> cynlluniau mewn gwahanol ffyrdd er mwyn arbed costau. Pethau fel cwtogi
> ar faint rhai ystafelloedd, dileu eitemau fel ffitiadau a gosodiadau nag
> oes eu hangen go iawn, ond heb amharu ar ansawdd yr adeilad na'i allu i
> gyflawni ei bwrpas. Mae'n swnio fel synnwyr cyffredin i mi, a dwn i ddim
> pam mae angen term arbennig ond dyna ni.
>
> Gwerthfawrogwn unrhyw gynnig
>
> Diolch
>
> Sylvia.
>
>
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|