Rhian Huws wrote:
> Dwi wedi gweld ‘mentai’ yn cael ei ddefnyddio yn rhywle, ond allai ddim
> dweud mod i’n ei hoffi! Er, mae’n dilyn yr un egwyddor â ‘payee’ ac yn y
> blaen.
>
>
>
> Rhian
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of
> *Gareth Jones
> *Sent:* 07 June 2011 09:22
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* mentee
>
>
>
> Y sawl/Rhywun sy'n cael ei fentora. A all unrhyw un awgrymu ffordd fwy
> cryno o gyfieithu 'mentee' (gan osgoi brych-eiriau!)? Diolch.
>
Mae gair fel hyfforddai wedi ennill ei blwyf ac yn cael ei ddefnyddio'n
holl naturiol yma yn adran addysg y coleg. Ond efo mentee (a tutee,
erchyllair arall a fydd yn ymddangos o dro i dro yma yn y coleg) byddwn
yn defnyddio'r gair myfyriwr - fel rheol mae'r cyd-destun yn dangos yn
glir mai'r myfyriwr sy'n cael ei fentora/ei diwtora sydd o dan sylw. Os
yw'r mentora'n digwydd yn y gweithle, yna byddwn yn defnyddio
gweithiwr. Interviewee yn un arall - gellid defnyddio ymgeisydd neu
beth bynnag sy'n briodol yn y cyd-destun. Fel arfer mae ffordd o ddatrys
y broblem hyd yn oed ar ffurflen lle mae gofod yn brin.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|