Gareth Jones wrote:
>
> Sut fyddech chi'n cyfleu'r canlynol?
>
> 'E-mail is a required field' - h.y. mae'n rhaid i'r sawl sy'n dymuno
> cofrestru i ddefnyddio rhan arbennig o wefan roi manylion ei gyfeiriad
> e-bost.
Dw i wedi gweld 'maes gofynnol'. Mae'r Gronfa Genedlaethol o Dermau ar y
we yn cynnwys adran dda ar dermau technoleg gwybodaeth, ac amryw o
feysydd eraill.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|