Ie, roeddwn i wedi gweld neges Ann. Roedd hi'n dweud mai un
enghraifft o "System Lleoli" oedd i'w gweld ar y we ar y pryd ond
erbyn hyn mae llawer iawn ohonynt. Meddwl oeddwn i tybed a yw
"system lleoli byd-eang" wedi ennill ei blwyf erbyn hyn - ac mai dyna
sydd fwyaf cywir os mai'r lleoli sy'n fyd-eang yn hytrach na'r system.
Diolch
Siân
On 16 Medi 2010, at 11:44, Claire Richards wrote:
> Mae cwpl o negeseuon am hyn yn yr archifau, a dywed Ann Corkett yn
> un ohonynt
>
> "O chwilio'r We dan "System Lleoli", un enghraifft - System
> Lleoli'n Ddaearyddol
> O chwilio dan "System Leoli", sawl enghraifft, y rhan fwyaf gan yr
> Arolwg Ordnans - System Leoli Fyd-eang
>
> Felly mi a i efo'r ail."
>
> Wrth gwrs, Geographical Positioning System fyddai'r cyntaf. Mae
> 'na'r fath beth - 84,300 o enghreifftiau ar y we.
>
> Claire
>
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On
> Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 16 September 2010 11:28
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Global Positioning System (GPS)
>
> Erbyn hyn, o chwilio am "gps system leoli" a "gps system lleoli",
> mae llawer mwy o enghreifftiau o "system lleoli byd-eang".
> Rwy'n teimlo mai hwnnw sy'n fwyaf cywir hefyd am mai'r "lleoli"
> sy'n "fyd-eang" yn hytrach na'r "system". Ie?
>
> Diolch
>
> Siân
|