Mae cwpl o negeseuon am hyn yn yr archifau, a dywed Ann Corkett yn un ohonynt
"O chwilio'r We dan "System Lleoli", un enghraifft - System Lleoli'n Ddaearyddol
O chwilio dan "System Leoli", sawl enghraifft, y rhan fwyaf gan yr Arolwg Ordnans - System Leoli Fyd-eang
Felly mi a i efo'r ail."
Wrth gwrs, Geographical Positioning System fyddai'r cyntaf. Mae 'na'r fath beth - 84,300 o enghreifftiau ar y we.
Claire
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 16 September 2010 11:28
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Global Positioning System (GPS)
Erbyn hyn, o chwilio am "gps system leoli" a "gps system lleoli", mae llawer mwy o enghreifftiau o "system lleoli byd-eang".
Rwy'n teimlo mai hwnnw sy'n fwyaf cywir hefyd am mai'r "lleoli" sy'n "fyd-eang" yn hytrach na'r "system". Ie?
Diolch
Siân
|