Wedi penderfynu defnyddio 'teclyn codi (nenfwd)', am y tro beth bynnag.
Llawer o ddiolch
Eluned
2009/7/18 Siān Roberts <[log in to unmask]>:
> Ro'n i'n gwrando ar arbenigwr ar ddyfeisiau i bobl anabl yn siarad heddiw.
> Roedd e'n defnyddio "hoist" - ac roedd ei Gymraeg yn swnio'n dda iawn.
>
>
> On 18 Jul 2009, at 11:57, Geraint Lovgreen wrote:
>
>> Does gen i ddim problem efo'r gair 'sling'. O bentref Sling ger Tregarth
>> mae John Ogwen a Gwynfor ab Ifor yn dod.
>>
>> Geraint
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Friday, July 17, 2009 10:45 AM
>> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>
>>
>> Iawn, Tim - wna i ddim poeni. Ond mae rhywbeth o'i le efo 'sling'.
>> Dydy o ddim yn ei roi ei hun i rythm yr iaith rywsut. Mae o'n dechrau
>> ac yn gorffen yn blwmp ac yn blaen a fedrwch chi wneud dim efo fo.
>> Wyt ti'n deall be sy gen i?
>>
>> Hwyl a diolch
>>
>> Eluned
>>
>> 2009/7/17 Saunders, Tim <[log in to unmask]>:
>>>
>>> Does dim rhaid poeni am ddiflaniad y llafariad ragddodiadol - neu'n rhy
>>> hwyr, efallai. Mae hi'n ddigon gwantan ers rhyw 1,500 o flynyddoedd.
>>>
>>> Tim
>>>
>>> -----Original Message-----
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eluned Mai
>>> Sent: 16 July 2009 21:18
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>
>>>
>>> Ia? Dwi ddim yn gwybod y ffeithiau a deud y gwir. Dim ond edrych yn
>>> Seisnig mae 'sling' i mi. Wyt ti'n gwybod pam roedd 'na 'y' o flaen
>>> llawer o eiriau Cymraeg yn y 19eg ganrif? Tybed oedd hi'n rhyw
>>> nodwedd o'r iaith rydan ni'n prysur golli heb yn wybod. Neu efallai
>>> bod ateb digon syml.
>>>
>>> Sut acen sydd ar yr 'i'? Does 'na 'run yn GPC.
>>>
>>> Diolch, Geraint. Rhywbeth i feddwl amdano, beth bynnag.
>>>
>>> 2009/7/15 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Dwi'n meddwl bod "sling" yn gymreiciach nag "ysling" - blas y 19eg
>>>> ganrif
>>>> sydd ar hwnnw!
>>>>
>>>> A byddai angen acen ar yr i...
>>>>
>>>>
>>>> ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]>
>>>> To: <[log in to unmask]>
>>>> Sent: Wednesday, July 15, 2009 10:33 PM
>>>> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>
>>>>
>>>> Ia, mae'r rheina'n ddigon taclus a digon byr, on'd ydyn - 'ysling
>>>> nenfwd' (mae o'n swnio dipyn bach yn fwy Cymreig efo'r 'y', er mai
>>>> benthyciad ydy o 'run fath) a 'cawod cadair olwyn' amdani.
>>>>
>>>> Diolch yn fawr iawn, Siān. A diolch i bawb eto.
>>>>
>>>> 2009/7/15 Siān Roberts <[log in to unmask]>:
>>>>>
>>>>> Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod cadair
>>>>> olwyn"
>>>>> ?
>>>>>
>>>>> On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote:
>>>>>
>>>>>> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n creu'r
>>>>>> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
>>>>>> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
>>>>>> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y nenfwd' -
>>>>>> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi dau air
>>>>>> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
>>>>>> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'.
>>>>>> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
>>>>>>
>>>>>> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn deud yn
>>>>>> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed?
>>>>>>
>>>>>> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
>>>>>>>
>>>>>>> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro
>>>>>>> Eluned?
>>>>>>>
>>>>>>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>>>>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology
>>>>>>> and
>>>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned
>>>>>>> Mai
>>>>>>> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
>>>>>>> At/To: [log in to unmask]
>>>>>>> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>>>>
>>>>>>> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn
>>>>>>> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai
>>>>>>> gwneud lle rhywsut fydd raid.
>>>>>>>
>>>>>>> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
>>>>>>> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
>>>>>>> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
>>>>>>>
>>>>>>> Diolch eto am dy gymorth.
>>>>>>>
>>>>>>> Eluned
>>>>>>>
>>>>>>> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>>>>>>>>
>>>>>>>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>>>>>>>>
>>>>>>>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa
>>>>>>>> Cysgeir
>>>>>>>
>>>>>>> ond
>>>>>>>>
>>>>>>>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd ond
>>>>>>>> dyna
>>>>>>>
>>>>>>> beth
>>>>>>>>
>>>>>>>> yw e. Gweler
>>>>>>>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/liftech_ceiling_hoist.jpg
>>>>>>>> am
>>>>>>>> lun
>>>>>>>
>>>>>>> o
>>>>>>>>
>>>>>>>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>>>>>>>>
>>>>>>>> Hg
>>>>>>>>
>>>>>>>> -----Original Message-----
>>>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>>>> vocabulary
>>>>>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
>>>>>>>> Sent: 12 July 2009 15:50
>>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>>>>>
>>>>>>>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda?
>>>>>>>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r symbolau
>>>>>>>> hynny
>>>>>>>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>>>>>>>>
>>>>>>>> Llawer o ddiolch
>>>>>>>>
>>>>>>>> Eluned
>>>>>>>>
>>>>>>>
>>>>>
>>>>
>>>
>
|