Twt â nhw! Na, dwi'n cytuno, Siân - dydyn ni'm haws â chwilio am
iaith berffaith achos does na'm ffasiwn beth, hyd y gwn i. Cyn belled
â'n bod ni'n rhoi cynnig am yr hyn sy'n taro orau - hwnna ydy'r boi,
ynte? Heddiw ddown ni o hyd i rywbeth; fory wnawn ni ddim. Mae o fel
y peth sgwar yna efo rhifau smotiog rydan ni'n daflu i fyny i'r awyr
wrth chwarae gêm - weithiau dim ond un smotyn fydd yn glanio efo'i
drwyn tua'r nen; dro arall fydd 'na chwech - hwrê! Ta waeth, mwynha
dy benwythnos. Gwydraid bach o win a mynd â'r ci am dro i mi; mae
hynny'n medru bod yn berffaith weithiau - nes bod Mali'n dechrau
rowlio!
Pob hwyl
Eluned (hen enw digon trwsgl ydy 'Eluned' wedi meddwl am y peth)
2009/7/17 Siân Roberts <[log in to unmask]>:
> Mae Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor ar Bopeth, Llywodraeth
> Cynulliad Cymru ac eraill yn defnyddio "hoist" - felly wela i ddim byd o'i
> le ar "hoist nenfwd"
> Siân
>
> On 17 Jul 2009, at 13:20, Eluned Mai wrote:
>
> Ia, mi fasa 'teclyn codi' yn gwneud i'r dim, ond bod hwn yn sownd yn y
> nenfwd ac mae 'na daclau codi eraill yn ymddangos yn yr un llyfryn
> sydd ddim yn sownd yn y nenfwd. Mae angen gwahaniaethu rhwng y ddau.
> Mae 'teclyn codi sy 'nghlwm wrth y nenfwd' damaid bach yn hir ond
> efallai bydd yn rhaid cael tudalen ychwanegol yn y fersiwn Gymraeg.
> Os daw 'na derm bach twt fel fflach o oleuni i rywun ganol nos, buaswn
> yn dra diolchgar!
> Diolch yn fawr, Tim
> 2009/7/17 Saunders, Tim <[log in to unmask]>:
>
> Ydw. A dweud y gwir, rwy'n credu fod rhediad esmwyth term neu ymadrodd bron
> mor bwysig i'w llwyddiant ag y mae'u cywirdeb manwl. Y mae 'sling' ychydig
> bach yn rhy blwmp, rwy'n cytuno. Fel mae'n digwydd, gwelais 'teclyn codi' yn
> derm eithaf cyffredin yn y math yma o gyd-destun.
> Yn iach,
> Tim
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eluned Mai
> Sent: 17 July 2009 10:45
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
> Iawn, Tim - wna i ddim poeni. Ond mae rhywbeth o'i le efo 'sling'.
> Dydy o ddim yn ei roi ei hun i rythm yr iaith rywsut. Mae o'n dechrau
> ac yn gorffen yn blwmp ac yn blaen a fedrwch chi wneud dim efo fo.
> Wyt ti'n deall be sy gen i?
> Hwyl a diolch
> Eluned
> 2009/7/17 Saunders, Tim <[log in to unmask]>:
>
> Does dim rhaid poeni am ddiflaniad y llafariad ragddodiadol - neu'n rhy
> hwyr, efallai. Mae hi'n ddigon gwantan ers rhyw 1,500 o flynyddoedd.
> Tim
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eluned Mai
> Sent: 16 July 2009 21:18
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
> Ia? Dwi ddim yn gwybod y ffeithiau a deud y gwir. Dim ond edrych yn
> Seisnig mae 'sling' i mi. Wyt ti'n gwybod pam roedd 'na 'y' o flaen
> llawer o eiriau Cymraeg yn y 19eg ganrif? Tybed oedd hi'n rhyw
> nodwedd o'r iaith rydan ni'n prysur golli heb yn wybod. Neu efallai
> bod ateb digon syml.
> Sut acen sydd ar yr 'i'? Does 'na 'run yn GPC.
> Diolch, Geraint. Rhywbeth i feddwl amdano, beth bynnag.
> 2009/7/15 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>
> Dwi'n meddwl bod "sling" yn gymreiciach nag "ysling" - blas y 19eg ganrif
> sydd ar hwnnw!
> A byddai angen acen ar yr i...
>
> ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, July 15, 2009 10:33 PM
> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
> Ia, mae'r rheina'n ddigon taclus a digon byr, on'd ydyn - 'ysling
> nenfwd' (mae o'n swnio dipyn bach yn fwy Cymreig efo'r 'y', er mai
> benthyciad ydy o 'run fath) a 'cawod cadair olwyn' amdani.
> Diolch yn fawr iawn, Siân. A diolch i bawb eto.
> 2009/7/15 Siân Roberts <[log in to unmask]>:
>
> Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod cadair
> olwyn"
> ?
> On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote:
>
> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n creu'r
> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y nenfwd' -
> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi dau air
> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'.
> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn deud yn
> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed?
> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
>
> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro
> Eluned?
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned
> Mai
> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn
> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai
> gwneud lle rhywsut fydd raid.
> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
> Diolch eto am dy gymorth.
> Eluned
> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>
> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa Cysgeir
>
> ond
>
> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd ond dyna
>
> beth
>
> yw e. Gweler
> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/liftech_ceiling_hoist.jpg am
> lun
>
> o
>
> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
> Hg
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
> Sent: 12 July 2009 15:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda?
> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r symbolau
> hynny
> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
> Llawer o ddiolch
> Eluned
>
>
>
>
>
>
>
|