annes gruffydd wrote:
> Yn lle bathu rhyw betha erchyll fel safleoli (maes y Sais ydi gwneud
> berf ne ansoddair o bob peth, onide?) be am 'mewn lle da' neu 'yn y lle
> da/gorau'? Ella galla hyn fod yn glogyrnaidd weithia ac ella weithia
> peidio a gweithio yn y frawddeg, ond deud petha'n blwmp ac yn blaen
> ydi'n petha ni - nid dyrfhau bloda ond rhoi dwr iddyn nhw; nid
> datlych-hau ond tynnu llwch.
>
> Annes
>
>
>
Dw i'n cytuno'n llwyr Annes, ond yn anffodus mewn dogfen hir eithaf
technegol weithiau mae angen bathiad erchyll neu mae rhywun yn gorfod
aralleirio bob tro. A lle mae'n cyfeirio at ddefnydd cyfyng a thechnegol
o air fel 'positioning' am wn i rhaid cael gair neu ymadrodd yn Gymraeg
i gyfleu'r un cysyniad cyfyng a thechnegol. Hyd yn oed os ydi rhywun yn
distaw gredu bod y cysyniad yn rwtsh....
Rydw i wrthi'n cyfieithu gweddill y ddogfen ac yna mi a i'n ol i'r
dechrau i feddwl eto.
'Ours is not to reason why
Ours is but to do or die'
Dw i'n siwr bod Tennyson yn cyfeirio at gyfieithu...
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|