Helo
Slawer dydd, ym manylion ymaelodi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, dw i
bron yn siwr ei fod yn dweud bod disgwyl i Aelodau Cyflawn allu
cyfieithu 500 gair yr awr. Ond, dw i hefyd yn cofio rhywun yn sôn
mewn cynhadledd mai 2000 o eiriau y dydd yr oedd disgwyl i
gyfieithwyr y Swyddfa Gymreig eu cyfieithu.
Efallai y gall rhywun gadarnhau.
Mae nifer y geiriau yn dibynnu ar lawer o ffactorau.
Cofion
Siân
On 2 Jun 2009, at 08:46, Osian Rhys wrote:
> Annwyl gyfeillion
>
> Maddeuwch gwestiwn sy ddim byd i neud â thermau, ond ro'n i'n
> meddwl mai dyma'r lle gore i ofyn hyn.
>
> Tybed oes rhywun yn gwybod am unrhyw ganllawiau neu rywbeth tebyg
> sy'n sôn faint o amser y mae cyfieithu yn ei gymryd? Rydyn ni'n ein
> cael ein hunain yn aml yn gorfod amddiffyn y ffaith na allwn ni
> ddychwelyd ugain mil o eiriau (sy heb gyrraedd gan nad yw'r
> gwreiddiol wedi ei orfffen eto, ond sy ar y ffordd...) erbyn
> drennydd. Enghraifft yw hyn, wrth gwrs, ond heb fod ymhell o'r gwir
> yn anffodus. Dw i'n ddigon parod i amddiffyn crefft cyfieithu rhag
> y fath afreswm, ond roedd fy nghydweithreg yn meddwl falle bod na
> rywbeth swyddogol fydde'n helpu i'n cefnogi ni, i ddangos nad jyst
> ni sy'n aneffeithlon/lletchwith...
>
> Diolch yn fawr ichi,
>
> Osian
|