Newydd dreulio dros hanner awr yn treio cael buwch yn ôl i'r cae. GRRRR!
Cyfanswm am heddiw i lawr yn barod!
On 2 Jun 2009, at 11:20, Osian Rhys wrote:
> Diolch yn fawr ichi i gyd am eich help. Rydych chi'n iawn wrth gwrs
> bod gwahaniaeth rhwng faint y gall un cyfieithydd ei wneud mewn
> diwrnod, o gael llonydd i wneud ei waith, a faint o amser y bydd yn
> ei gymryd i gleient gael ei waith yn ôl, gan gofio pob ystyriaeth
> arall -- heb sôn am natur y gwaith, gwrth gwrs. O'r hyn y gallawn
> ei gasglu o'ch ymatebion, dydyn ni ddim yn afresymol o araf yma,
> fel roedden ni'n amau, ond diolch am gadarnhau!
>
> Diolch eto, a chofiwch, wrth gytuno ar ddyddiad dychwelyd gyda'ch
> cleientiaid, eich bod yn caniatáu awr neu ddwy hefyd i fynd allan
> i'r haul am ychydig...
>
> Osian
|