Dim cweit. Pan adawais i'r brifysgol, es i weithio mewn gwesty yn y dre'
fel chef dan hyfforddiant am ddwy flynedd gan ddilyn cwrs hyfforddiant
proffesiynol yn y coleg trydyddol lleol. Cogydd yw unrhyw berson sy'n
coginio ond mae chef wedi cael neu wrthi'n derbyn hyfforddiant proffesiynol
yn y diwydiant arwlyo a lletygarwch, gan gynnwys astudio coginio, theori
bwyd, dysgu am gynhwysion a chyfuniadau, diod, cyflwyniad bwyd.
Os cogydd yw 'cook', a phen-cogydd yw chef, beth am 'uwch-gogydd' ar gyfer
'head chef'?
Hg
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 15 April 2009 14:46
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: chef / cook
Hyd y gwela' - mae 'chef' yn golygu 'pennaeth ar lond cegin o 'cooks' neu
'bennaeth ar adran benodol mewn cegin' sy'n arwain tīm. Mae 'pencogydd' yn
awgrymu i fi bod pawb arall yn y gegin yn 'gogyddion' (chefs) hefyd ond
dydyn nhw ddim - 'cooks' ydyn nhw ar y cyfan.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 15 Ebrill 2009 13:24
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: chef / cook
Dwi'n meddwl y baswn i'n rhoi "cogydd" am "cook" a "phencogydd" (heb y
cysylltnod ella? fel pencampwr) am "chef". Wedyn mi fase "head chef" yn
"brif bencogydd".
Geraint
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 15, 2009 2:10 PM
Subject: chef / cook
A oes ffordd hwylus o wahaniaethu rhwng "chef" a "cook"?
Mae arna i eisiau dweud bod pedwar cook ac un chef wedi ennill gwobr.
"Cogydd" swn i'n
ddweud am y ddau yn naturiol.
Mae GyrA yn rhoi "pen-cogydd" a "sieff" am "chef" a "cogydd", "cŵc",
"cwc" am "cook". Mae
hefyd yn rhoi "pen-cogydd" am "cook in charge", sef beth yw un o 'nghwcs i.
Dw i ddim yn hoff o "sieff" ond ydi "pen-cogydd" yn swnio fel "head chef"?
Ydi "cwc" yn
swnio braidd yn ddilornus erbyn hyn? Mewn ysgolion a chartrefi henoed y
mae'r rhain yn
gweithio.
O diar eto
Siān
|